
Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwahodd ceisiadau am bum sedd wag ar ein Bwrdd Cyfarwyddwyr.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolion sydd yn awyddus i ddefnyddio’u sgiliau a phrofiadau i ymuno â thîm sy’n arwain corff cynllunio cenedlaethol uchelgeisiol sydd â’r Gymraeg wrth wraidd ei bwrpas a’i weledigaeth.
Y Coleg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’n cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gynhwysol o’r radd flaenaf.
Fel Cyfarwyddwr, byddwch yn cymryd rhan mewn penderfyniadau allweddol ar strategaeth a pholisi’r Coleg. Byddwch yn cyfrannu at sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth gyfunol y Cyfarwyddwyr er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni ei gyfrifoldebau ac yn cynnal safonau uchaf llywodraethu corfforaethol.
Rydym yn chwilio yn benodol am unigolion sydd â phrofiad o ddarparu neu reoli o fewn addysg uwch, profiad o’r sector prentisiaethau, neu addysg bellach, arbenigedd ariannol, profiad o’r sector preifat neu o redeg cwmni. Rydym am sicrhau bod gennym Fwrdd sydd yn adlewyrchu poblogaeth Cymru ac felly’n edrych yn benodol i gynyddu cynrychiolaeth menywod a phobl ddu ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (DALlE).
Bydd y penodiadau am gyfnod o bedair blynedd. Disgwylir ymrwymiad o tua diwrnod y mis ar gyfartaledd.
Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob rhan o’r gymuned. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a gwneir penodiadau ar sail teilyngdod.
Ceir manylion llawn a ffurflen gais ar wefan y Coleg, www.colegcymraeg.ac.uk/swyddi, neu drwy gysylltu gyda Dr Dylan Phillips (d.phillips@colegcymraeg.ac.uk).
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 31 Ionawr