
Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe
Math o Gytundeb: Contract cyfyngedig
Graddfa’r Cyflog: £34,804 – £40,322 y flwyddyn a buddion Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS)
Contract: 35 awr yr wythnos . Swydd am gyfnod penodol o 3 blynedd yw hon
Lleoliad: Lleolir y swydd hon ar Gampws Singleton
Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, un o Ysgolion Meddygaeth blaenllaw’r DU.
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe’n gwreiddio’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn y rhaglen feddygol. Caiff siaradwyr Cymraeg rhugl gwblhau rhannau o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg a chânt eu hannog i weld eu dwyieithrwydd fel rhinwedd ychwanegol y gellir ei defnyddio i ddarparu gwasanaeth o safon well i gleifion Cymraeg eu hiaith mewn amgylcheddau clinigol. Mae myfyrwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg yn derbyn cymorth ac arweiniad i feithrin hyder a dealltwriaeth o’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac i fod yn gyfarwydd â nhw wrth iddynt hyfforddi a gweithio yng Nghymru. Nod yr ymagwedd hon yw cynyddu ymwybyddiaeth o anghenion ieithyddol a’r rhwystrau a wynebir gan wasanaethau iechyd ledled y byd, a sicrhau bod cydnabyddiaeth am iaith a pharch at iaith yn rhan o anghenion gofal iechyd, yn hytrach nag ychwanegiad.
Disgwylir i Gyfarwyddwr y Ddarpariaeth Addysg Gymraeg arwain tîm bach, gan dderbyn lefel uchel o gyfarwyddyd gan Bennaeth y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion, yn yr Ysgol Feddygaeth. Mae’r Cyfarwyddwr yn gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau canlynol mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn or-gymhleth:
- Cyfarwyddwr darpariaeth addysg Gymraeg y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion
- Cyfarwyddwr Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol (RRHIE), gan gysylltu â’r Asiantaeth Gofal Sylfaenol
- Hyrwyddo lles ehangach y cyhoedd yn eich holl weithredoedd, gweithredu mewn modd sy’n briodol yn foesegol, yn gyfreithiol ac yn gymdeithasol yn eich holl gysylltiadau â rhanddeiliaid ac aelodau’r tîm Meddygaeth i Raddedigion a’r Brifysgol.
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau cais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn seiliedig ar y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio. Dylai ymgeiswyr hefyd atodi dwy ddogfen ar wahân i’r cais:
1. Curriculum Vitae;
2. Datganiad sy’n rhoi manylion am eich dyheadau i wella addysgu a phrofiad myfyrwyr.
Croesewir ymholiadau anffurfiol a dylid eu cyfeirio at sylw’r Athro Kamila Hawthorne, Pennaeth Meddygaeth i Raddedigion yn kamila.hawthorne@abertawe.ac.uk
Telerau ac Amodau Cyflogaeth
Oriau: 35 awr yr wythnos. (Swydd amser llawn yw hon, ond croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio’n rhan-amser, rhannu swydd neu weithio oriau hyblyg)
Gwyliau Blynyddol: 31 o ddiwrnodau’r flwyddyn ynghyd â Gwyliau Banc (pro rata ar gyfer staff rhan-amser)
Telir cyflog ar Radd 8 ar y raddfa gyflogau ar gyfer Staff.
Er mwyn deall mwy am y swydd ewch i:
https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/swyddi-a-gweithio-yn-abertawe/swyddi-gwag/
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Prifysgol Abertawe
- Disgrifiad swydd
- Disgrifiad-Swydd-Cyfarwyddwr.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 31 Ionawr