
Rhif Swydd
AC04312
Hysbysebu Adran
Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Graddfa’r Cyflog: Graddfa Addysgwr Meddygon Teulu neu Ymgynghorydd GIG gyfwerth
Contract: 0.2 CALl (2 sesiwn 3.5 awr yr wythnos), Rôl am gyfnod penodedig o 3 blynedd yw hon
Lleoliad: Lleolir y swydd hon ar Gampws Singleton, Abertawe
Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, un o Ysgolion Meddygaeth blaenllaw’r DU.
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn darparu ymagwedd ryngddisgyblaethol, gan addysgu a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o feddygon, gwyddonwyr bywyd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae’n cydweithio â’r GIG, busnesau a’r trydydd sector mewn ysbryd o arloesi agored ac mae wedi sefydlu ei hun fel lle o’r radd flaenaf i ddysgu, ymchwilio ac arloesi. Mae’r Ysgol Feddygaeth ar y brig yn y DU am amgylchedd ymchwil ac yn ail am ansawdd cyffredinol ymchwil (REF 2014-2021) ac yn drydydd am Feddygaeth (Canllaw Prifysgolion Da The Times and Sunday Times).
Yr Ysgol Feddygaeth oedd yr adran gyntaf yn y Brifysgol i ennill Uned Herio Cydraddoldeb Siarter Arian Athena SWAN yn 2015, ac ailddyrannwyd y statws iddi yn 2019 i gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb. Mae’r Brifysgol hefyd yn ddeiliad Gwobr Siarter Arian Athena SWAN.
Dyrannwyd statws Aur i’r Brifysgol yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr Llywodraeth y DU (TEF) i gydnabod ei safonau addysgu rhagorol.
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe’n gwreiddio’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn y rhaglen feddygol. Caiff siaradwyr Cymraeg rhugl gwblhau rhannau o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg a chânt eu hannog i weld eu dwyieithrwydd fel rhinwedd ychwanegol y gellir ei defnyddio i ddarparu gwasanaeth o safon well i gleifion Cymraeg eu hiaith mewn amgylcheddau clinigol. Mae myfyrwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg yn derbyn cymorth ac arweiniad i feithrin hyder a dealltwriaeth o’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac i fod yn gyfarwydd â nhw wrth iddynt hyfforddi a gweithio yng Nghymru. Nod yr ymagwedd hon yw cynyddu ymwybyddiaeth o anghenion ieithyddol a’r rhwystrau a wynebir gan wasanaethau iechyd ledled y byd, a sicrhau bod cydnabyddiaeth am iaith a pharch at iaith yn rhan o anghenion gofal iechyd, yn hytrach nag ychwanegiad.
Mae gan y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion nifer o siaradwyr Cymraeg, yn y Gyfadran academaidd a chlinigol ac o ran rheolwyr. Rydym yn chwilio am glinigwr rhugl a hyderus sy’n siarad Cymraeg, gyda gwir awydd i gefnogi’r defnydd o’r iaith Gymraeg mewn lleoliadau clinigol ledled Cymru ac i weithio fel rhan o’n tîm Cefnogi’r Gymraeg. Eich rôl fydd sicrhau bod cymorth Cymraeg wedi’i integreiddio’n glinigol yn llawn a’i ymgorffori yn y rhaglen GEM a’i lleoliadau clinigol cysylltiedig. Ar y cyd â hyn, mae’r rôl yn cynnwys cyfraniadau i’r rhaglen RRHiME (Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol). Mae hwn yn drac sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio elfennau o’r rhaglen GEM mewn rhannau gwledig ac anghysbell o Gymru. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau clinigol a phrosiectau a ddewisir gan fyfyrwyr.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus a PhD mewn maes pwnc perthnasol neu radd a phrofiad neu gymhwyster proffesiynol perthnasol. Bydd ganddyn nhw hefyd a Cymhwyster addysgu cydnabyddedig a fyddai’n arwain at Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch neu ymrwymiad i gyflawni hyn.
Mae menywod wedi’u tangynrychioli yn yr Ysgol felly byddai’n annog ceisiadau gan fenywod yn benodol. Penodir ymgeiswyr bob amser yn ôl teilyngdod.
Rhaid darparu tystysgrif DBS foddhaol cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau cais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn seiliedig ar y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio. Dylai ymgeiswyr hefyd atodi dwy ddogfen ar wahân i’r cais:
1. Curriculum Vitae;
2. Datganiad sy’n rhoi manylion am eich dyheadau i wella addysgu a phrofiad myfyrwyr.
Croesewir ymholiadau anffurfiol a dylid eu cyfeirio at sylw’r Athro Kamila Hawthorne, Pennaeth Meddygaeth i Raddedigion yn kamila.hawthorne@abertawe.ac.uk
Er mwyn deall mwy am y swydd: https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/swyddi-a-gweithio-yn-abertawe/swyddi-gwag/
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Prifysgol Abertawe
- Disgrifiad swydd
- Disgrifiad-Swydd-Uwch-1.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 31 Ionawr