Llywodraeth Cymru

Penodi Aelod Annibynnol

Dyddiad cau: 10 Awst

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Tâl cydnabyddiaeth o £15,936 gydag ymrwymiad amser o 4 diwrnod y mis

Rydym yn recriwtio aelod annibynnol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch profiad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau ym Mae Abertawe, gan helpu i lywio dyfodol gofal iechyd yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru..

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn sefydliad mawr a chymhleth. Rydym yn comisiynu ac yn darparu’r holl wasanaethau iechyd yn y gymuned ac mewn ysbytai ar gyfer bron i 400,000 o drigolion. Mae llawer mwy eto yn defnyddio ein gwasanaethau trydyddol arbenigol. Ein nod bob amser yw cefnogi iechyd a llesiant ein poblogaeth a sicrhau canlyniadau iechyd gwell. Mae gennym strategaeth sefydliadol uchelgeisiol sy’n cyd-fynd yn agos â chyd-destun polisi a deddfwriaeth flaengar Cymru, gan gynnwys newid i atal a gofal sylfaenol, integreiddio â gwasanaethau cymdeithasol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Fel aelod annibynnol, bydd disgwyl ichi chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei reoli, mewn modd clinigol a chorfforaethol, a byddwch yn cynnig barn annibynnol i’r Bwrdd am faterion fel perfformiad, penodiadau allweddol, rhagolygon ac atebolrwydd. Byddwch hefyd yn mwynhau cydweithio â phartneriaid lleol a cenedlaethol.

Caiff aelod annibynnol ei benodi am gyfnod o hyd at bedair blynedd yn seiliedig ar ymrwymiad amser tybiedig o bedwar (4) diwrnod y mis o leiaf, ond bydd hynny’n amodol ar ofynion y sefydliad, ac mae hynny’n aml yn fwy na’r isafswm gofynnol.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, megis menywod, pobl anabl, ac unigolion o leiafrifoedd ethnig, ac am y sgiliau sydd gennych i gyfrannu at y meysydd hyn.

Byddwch cystal â nodi mai 10/08/2021 yw’r dyddiad cau.

Ni fyddwn yn ystyried ffurflenni cais a ddaw i law wedi’r dyddiad hwn. Disgwylir cynnal cyfweliadau yn ystod w/c 27/09/2021.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Llywodraeth Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
10 Awst
Rhagor o wybodaeth