
Swyddi newydd ar gael yn Golwg:
Prentis Digidol ac Amlgyfrwng
Tra’n gweithio i Golwg byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 4 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol (Llwybr Cyfryngau Rhyngweithiol) trwy ddarparwr hyfforddiant Sgil Cymru.
Mae’n rhaid i chi fod dros 18 oed er mwyn gwneud y cymhwyster hwn.
Yn gweithio gyda a chynorthwyo’r tîm i greu cynnwys aml-blatfform, er enghraifft creu gwefannau a chynnwys ar gyfer y gwefannau hynny a’r cyfryngau cymdeithasol.
Cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cefnogi cynllun cyfryngau cymdeithasol y cwmni
- Ymchwilio ac awgrymu syniadau ar gyfer cynnwys newydd gan gadw llygad ar ddatblygiadau a thueddiadau poblogaidd
- Rheoli sianeli cyfryngau cymdeithasol
- Cynorthwyyo creu gwefannau newydd fel rhan o’r rhwydwaith
- Creu cynnwys newydd ar gyfer y gwefannau, gan gynnwys creu cynnwys ar gyfer cleientiaid allanol
- Uwchlwytho cynnwys i’r gwefannau, gan gynnwys cynnwys Golwg+
- Cynorthwyyo’r dylunydd i greu unrhyw ddyluniau ychwanegol
Cyflog: £14,500
Lleoliad: Hyblyg
Oriau: Llawn amser
Tymor: 15 mis
Am fwy o wybodaeth a swydd ddisgrifiad llawn cysylltwch â Sian Powell: sianpowell@golwg.com
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Golwg
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 1 Mawrth