
Band Cyflog: MB1/SEO
Grŵp: EPS
Ystod y cyflog : £39,310 – £47,000
Is-adran: Arolygiaeth Gofal Cymru
Cangen: Tîm Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant
Lleoliad : Cyffordd Llandudno
Hyd y swydd os yw dros dro: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn.
Pwrpas y swydd:
AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Mae arolygu a gorfodi yn swyddogaethau allweddol er mwyn darparu gwasanaethau rheoleiddiedig diogel ac o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru.
Prif dasgau’r Rheolwr Tîm yw rheoli tîm o rhwng 6 ac 8 Arolygydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gofal rheoleiddiedig i oedolion a phlant yn darparu gofal diogel o ansawdd da, ac yn annog ac yn ysgogi gwelliant. Bydd y Rheolwr Tîm yn cynorthwyo ac yn cefnogi’r Uwch-reolwr gyda’r gwaith o reoli’r gwasanaeth yn effeithiol, yn amserol ac yn effeithlon.
Bydd Rheolwyr Tîm yn atebol i Uwch-reolwr. Bydd ganddynt rôl bwysig i’w chwarae er mwyn sicrhau y caiff cyfrifoldebau craidd AGC eu cyflawni’n effeithiol ac yn amserol ym mhob agwedd ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant sy’n derbyn gofal ac oedolion.
Prif dasgau:
- Rheoli tîm o Arolygwyr yn effeithiol o ddydd i ddydd.
- Sicrhau y darperir sesiynau goruchwylio myfyriol rheolaidd i arolygwyr dynodedig ac y caiff eu perfformiad ei reoli’n effeithiol.
- Hyrwyddo a chyfrannu at ymwreiddio’r defnydd o systemau digidol a TGCh yn AGC.
- Cefnogi datblygiad staff y tîm drwy roi hyfforddiant sefydlu, sesiynau briffio a gweithredu fel mentor neu hyfforddwr gydag arolygwyr rheoleiddio a nodir ac aelodau o’r staff. Monitro ac arsylwi ar arferion arolygu er mwyn nodi a rhannu arferion da a meysydd i’w datblygu’n broffesiynol.
- Bod yn gyfrifol am ddyrannu gwaith i arolygwyr dynodedig yn amserol ac yn effeithlon, yn unol â phrosesau a gofynion sefydliadol.
- Helpu’r Uwch-reolwr perthnasol a’r Pennaeth Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant i gyfrannu at y gwaith o sicrhau ymatebion amserol a chyflawn i bob sylw, canmoliaeth a chŵyn, a cheisiadau o dan y Ddeddf Diogelu Data yn unol â phrosesau a gofynion sefydliadol.
- Gwneud penderfyniadau rheoli achosion a gorfodi yn unol â’r dyletswyddau dirprwyedig a nodir yng nghanllawiau sicrhau gwelliant a gorfodi AGC.
- Gweithio’n agos gydag uwch-reolwyr timau Arolygu Awdurdodau Lleol i rannu gwybodaeth.
- Bod yn gyfrifol am reoli gweithgareddau rheoleiddio a pherfformiad drwy gyfrannu’n effeithiol at ddewis, recriwtio a sefydlu staff.
- Gweithredu fel rheolwr llinell a goruchwylio’r trefniadau ar gyfer sicrhau atebolrwydd a chydymffurfiaeth o ran safonau ac ansawdd pob gweithgaredd arolygu a rheoleiddio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant.
- Bod yn rheolwr llinell cryf a gweladwy i arolygwyr rheoleiddio gan ddangos ymrwymiad personol i werthoedd a nodau’r sefydliad ar bob lefel o weithgarwch.
- Bod yn gyfrifol am hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, lle caiff materion amrywiaeth a chydraddoldeb eu hystyried yn llawn a’u hintegreiddio mewn ymarfer rheoleiddio, a gweithredu fel hyrwyddwr newid fel sy’n ofynnol gan y sefydliad.
- Bod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch Llywodraeth Cymru yn y maes cyfrifoldeb.
- Helpu i gynnal archwiliadau ac adolygiadau sicrhau ansawdd yn ôl y gofyn.
- Helpu arolygwyr gyda gweithgarwch arolygu cymhleth a heriol yn ôl y gofyn.
- Bod yn gyfrifol am gysylltu â rheoleiddwyr eraill, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, yr heddlu ac arolygiaethau eraill, er mwyn cefnogi proses reoleiddio effeithiol.
- Bod yn gyfrifol am gysylltu ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd mewn perthynas â diogelu ac ansawdd gwasanaethau a gomisiynir.
- Cynnig cymorth i Uwch-reolwyr yn y tîm Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant wrth oruchwylio a monitro darparwyr sydd â sawl gwasanaeth, yn unol â chanllawiau AGC.
- Ystyried sylwadau yn unol â’r rota y cytunwyd arno.
- Casglu a darparu tystiolaeth i wrandawiadau’r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol ynddynt.
- Gweithio’n agos gyda rheolwyr tîm yn y Tîm Cofrestru a Gorfodi a’r Tîm Arolygu Awdurdodau Lleol i rannu gwybodaeth a fydd yn llywio penderfyniadau.
- Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad a’ch datblygiad proffesiynol eich hun, gan gynnwys sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi a deddfwriaethol perthnasol a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses perfformiad a datblygiad Llywodraeth Cymru ac ar ôl trafod â’r Uwch-reolwr – Arolygu Gwasanaethau Oedolion.
Gofynion Iaith Gymraeg:
Cymraeg yn Hanfodol
Cymwyseddau
Pennu Cyfeiriad – Gweld y Darlun Cyflawn
Ceisio deall y modd y mae gwasanaethau, gweithgareddau a strategaethau yn yr ardal yn gweithio gyda’i gilydd i roi gwerth i’r cwsmer/defnyddiwr.
Pennu Cyfeiriad – Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.
Ymgysylltu â Phobl – Arwain a Chyfathrebu
Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.
Cyflawni Canlyniadau – Cyflawni’n Gyflym
Blaengynllunio ond ailasesu llwythau gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd pobl yn wynebu gofynion sy’n gwrthdaro.
Meini Prawf Penodol i’r Swydd
- Cymhwyster Gofal Cymdeithasol cydnabyddedig megis Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol), cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, cymhwyster addysgu neu fod wedi’ch addysgu i lefel gradd a meddu ar Ddiploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â phrofiad ôl-gymhwyso perthnasol o weithio mewn Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a/neu Wasanaethau Plant ac Oedolion Iau.
- Profiad o arwain, rheoli a datblygu tîm yn effeithiol.
- Tystiolaeth o arwain a llywio’r gwaith o wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion a bodloni gofynion amrywiol defnyddwyr gwasanaethau/cwsmeriaid/defnyddwyr.
Dyddiad cau: 08/03/21, 16:00
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 8 Mawrth