
Cenedlaethol
Lleoliad: Lleolir y swydd yn un o swyddfeydd Mudiad Meithrin (Aberystwyth, Llangefni, Caerdydd neu Wrecsam) neu gyfuniad o weithio o un o’r swyddfeydd ac o adref. Bydd disgwyl i’r person ymweld â’r Brif Swyddfa yn Aberystwyth yn achlysurol.
Cyflog: MM15 – MM20 – £21,032 – £24,526
Oriau: Llawn Amser – 37.5 awr yr wythnos
Cymwysterau: Gweler y Swydd Ddisgrifiad.
Am fwy o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Helen Williams, Pennaeth Tîm Hyfforddi, Dysgu a Datblygu drwy e-bostio helen.williams@meithrin.cymru.
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch.
Oherwydd hyn, ynghyd a diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALIE/BAME) a gwrywaidd
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma dros e-bost at: adnoddaudynol@meithrin.cymru.
Dyddiad cyfweld: 23/4/2021 – Amser i’w gadarnhau – dros Teams.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Mudiad Meithrin
- Ffurflen gais
- 1.-Ffurflen-Gais-Staff-MM-MCC-CC-7.doc
- Disgrifiad swydd
- Swydd-Ddisgrifiad-Swyddog.doc
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 16 Ebrill