S4C

Uwch Newyddiadurwr Digidol S4C

Dyddiad cau: 14 Mehefin

Mae S4C newydd lansio gwasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau.

Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o wasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i’r dyfodol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o’r newydd a denu dilyniant.

Bydd gennych brofiad golygyddol a dealltwriaeth o’r gyfraith yn ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau, yn ogystal â’r gallu i adeiladu perthnasau positif gyda phobl a sefydliadau er mwyn datblygu a chynnal partneriaethau.

Mae sgiliau ieithyddol cryf yn bwysig i’r rôl i allu sicrhau safon a chywirdeb, yn ogystal â gosod tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.

Bydd gennych drwyn am stori a’r gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.

Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.

Os oes gennych chi’r sgiliau a’r profiad i helpu ni i adeiladu gwasanaeth newydd byddem yn hoffi clywed gennych.

Senior Digital Journalist

This is an advertisement for a Senior Digital Journalist for which the ability to speak and understand both Welsh and English is essential.

Manylion eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Rydym yn annog pob cyflogai i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio ystwyth, ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith gwahanol. Mae pob un ohonynt yn amodol ar anghenion busnes.

Oherwydd coronafeirws mae S4C wedi lleihau mynediad i’w swyddfeydd ar gyfer staff sydd ddim ynghlwm a darlledu er mwyn sicrhau diogelwch a lles unigolion ac i ddiogelu darlledu. Mae’n bosibl felly y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â’r sefydliad os yw’r cyfyngiadau hyn yn dal ar waith.

Cytundeb: Parhaol

Oriau gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Eich rôl yw cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. O ganlyniad bydd eich patrwm sifft ar draws 7 diwrnod, ac yn unol â gofynion y gwasanaeth.

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 14 Mehefin 2021 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Nid ydym yn derbyn CV.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

 

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd cymdeithasol, oedran, sefyllfa deuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr rhan neu lawn amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol, ailbennu rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd o iaith (heblaw lle mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer swydd) neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroddedig i ystyried amrywiaethau mewn modd positif. Mae S4C yn croesawu ac yn cymell ceisiadau am swyddi oddi wrth grwpiau allai fod wedi eu tangynrychioli gan gynnwys merched, pobl dduon ac o leiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth agored a theg a phenderfynir ar benodiadau ar sail teilyngdod.

Enw’r cwmni neu sefydliad
S4C
Math o swydd
Llawn amser
Disgrifiad swydd
SD-Uwch-Newyddiadurwr-Digidol.pdf
Dyddiad cau i ymgeiswyr
14 Mehefin
Rhagor o wybodaeth