
Cyflog: £41,000 – £47,470. Disgwylir penodi ar waelod y band cyflog, ond mewn rhai amgylchiadau ceir hyblygrwydd i gynnig cyflog cychwyn hyd at bwynt 3 ar y raddfa gyflog.
Parhaol, Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd)
Lleoliad: Cymru gyfan. Mae staff y Gwasanaeth Cyfieithu yn gweithio gartref yn bennaf, ond mae desgiau gennym yn y swyddfeydd canlynol: Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno.
Dyma swydd broffesiynol yng Ngwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru sy’n gofyn am gyfuniad o sgiliau gwas cyhoeddus craff ac ieithydd profiadol. Mae’n gyfle gwych i unigolyn sydd â phrofiad o ddefnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol, a phrofiad o arwain a datblygu pobl a phrosesau, roi ei sgiliau ar waith mewn sefydliad sydd ar flaen y gad yn y maes.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod allweddol o Uned Ddatblygu’r Gwasanaeth Cyfieithu. Dyma’r uned sy’n gyfrifol am ddarparu arweiniad a chefnogaeth i’r Gwasanaeth Cyfieithu cyfan – a’r Llywodraeth yn ehangach – ar faterion yn ymwneud ag arddull cyfieithu, terminoleg, sicrhau ansawdd, datblygu sgiliau cyfieithu proffesiynol, a hyrwyddo’r Gwasanaeth fel canolfan ragoriaeth.
Bydd yr Arweinydd Datblygu ac Ansawdd yn benodol gyfrifol am:
- Arwain y gwaith o sicrhau bod defnyddio technoleg yn gwella ansawdd ac effeithlonrwydd gwaith cyfieithu
- Arwain y gwaith o osod safon arddull glir ar gyfer gwaith cyfieithu Llywodraeth Cymru, a chynnal ac ehangu agweddau annherminolegol BydTermCymru a’r Arddulliadur
- Arwain prosesau sicrhau ansawdd ymatebol ar gyfer gwaith cyfieithwyr mewnol a chyflenwyr allanol y Gwasanaeth Cyfieithu
- Arwain rhaglen ar gyfer datblygu sgiliau proffesiynol cyfieithwyr ar bob lefel yn y Gwasanaeth Cyfieithu
- Denu a datblygu adnodd cyfieithu addas i Lywodraeth Cymru.
Dyddiad cau: 06/09/2022, 12:00
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 6 Medi 2022