British Council Cymru

Athrawon/Tiwtoriaid Cymraeg ym Mhatagonia – 3 swydd

Dyddiad cau: 14 Rhagfyr 2022

Mawrth 2023 – Rhagfyr 2023

A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu a datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia? Ydych chi’n chwilio am her newydd a phrofiadau gwerth chweil?

Rydym yn chwilio am athrawon neu diwtoriaid cymwys a phrofiadol i ddysgu naill ai:

Plant (meithrin, cynradd neu arddegau); neu Oedolion (pob safon).

Bydd y dyletswyddau hefyd yn cynnwys trefnu gweithgareddau cymdeithasoli iaith ar ran Menter Iaith Patagonia.

Cyflog misol o £750, ynghyd â llety, taith awyren ac yswiriant iechyd.

Am fwy o fanylion ac am ffurflen gais, cysylltwch â iepwales@britishcouncil.org

Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni cais yw dydd Iau Mercher 14 Rhagfyr 2022

Mae’r British Council Cymru yn ymrwymedig i bolisi cyfle cyfartal ac mae’n awyddus i adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas y DU ar bob lefel yn y sefydliad. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

Rydym yn sicrhau y caiff ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol eu cyfweld. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn darllen testun safonol nodi ym mha fformat yr hoffent gael pecyn cais: print mawr, Braille, disg cyfrifiadur neu dâp sain.

Sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig dros gydberthnasau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Elusen gofrestredig: 209131 (Cymru a Lloegr) SC037733 (Yr Alban).

www.britishcouncil.org

Enw’r cwmni neu sefydliad
British Council Cymru
Disgrifiad swydd
Disgrifiad-Swydd-Patagonia.pdf
Dyddiad cau i ymgeiswyr
14 Rhagfyr 2022
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful

Lleoliad: Merthyr Tudful
Dyddiad cau: Rhagfyr 16
National Theatre Wales

Cyfarwyddwr Cydweithio

Dyddiad cau: Ionawr 8
Menter a Busnes

Swyddog Cyllid (cyfnod mamolaeth)

Dyddiad cau: Rhagfyr 12
Cwmni Cyfieithu Bla

Swyddog Datblygu Busnes

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
Llywodraeth Cymru

Ceidwad

Dyddiad cau: Rhagfyr 2
Prifysgol Caerdydd

Darlithydd – Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
Cymdeithas yr Iaith

Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol

Dyddiad cau: Rhagfyr 14
Mentrau Iaith Cymru

Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru

Dyddiad cau: Ionawr 6
Cyngor Gwynedd

Cyfrifydd Grwp (2 swydd)

Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Llywodraeth Cymru

Penodi Aelod Annibynnol – Cyffredinol

Dyddiad cau: Rhagfyr 14