British Council Cymru

Athrawon/Tiwtoriaid Cymraeg ym Mhatagonia – 3 swydd

Dyddiad cau: 26 Mai 2022

Gorffennaf 2022 – Rhagfyr 2022*

*gyda posibiliad o estyniad i 2023


A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu a datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia? Ydych chi’n chwilio am her newydd a phrofiadau gwerth chweil?Rydym yn chwilio am athrawon neu diwtoriaid cymwys a phrofiadol i ddysgu naill ai:

Plant (meithrin, cynradd neu arddegau); neu Oedolion (pob safon).

Bydd y dyletswyddau hefyd yn cynnwys trefnu gweithgareddau cymdeithasoli iaith ar ran Menter Iaith Patagonia.

Cyflog misol o £750, ynghyd â llety, taith awyren ac yswiriant iechyd.

Am fwy o fanylion ac am ffurflen gais, cysylltwch â

iepwales@britishcouncil.org

Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni cais yw dydd Iau 26ain Mai 2022


Mae’r British Council Cymru yn ymrwymedig i bolisi cyfle cyfartal ac mae’n awyddus i adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas y DU ar bob lefel yn y sefydliad. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

Rydym yn sicrhau y caiff ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol eu cyfweld. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn darllen testun safonol nodi ym mha fformat yr hoffent gael pecyn cais: print mawr, Braille, disg cyfrifiadur neu dâp sain.

Sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig dros gydberthnasau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Elusen gofrestredig: 209131 (Cymru a Lloegr) SC037733 (Yr Alban).

British Council | Cymru

Enw’r cwmni neu sefydliad
British Council Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
26 Mai 2022
Gyrfa Cymru

Anogwyr Cyflogadwyedd

Dyddiad cau: Mehefin 7
Cymwysterau Cymru

Pennaeth Cyfathrebu

Dyddiad cau: Mehefin 9
Cyngor Gwynedd

Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Digwyddiadau

Dyddiad cau: Mehefin 9
Cyngor Gwynedd

Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Tir ac Eiddo

Dyddiad cau: Mehefin 9
Grŵp Llandrillo Menai

Cyfieithydd

Dyddiad cau: Mehefin 9
Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr

Pennaeth

Dyddiad cau: Mehefin 15
Menter a Busnes

Rheolwr Datblygu Sector Bwyd (canolbarth Cymru)

Dyddiad cau: Mehefin 6
Cyngor y Gweithlu Addysg

Swyddog Gweithredol, Hyrwyddo Gyrfaoedd

Dyddiad cau: Mehefin 10
Grŵp Llandrillo Menai

Cynorthwy-ydd Personol i Bennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor

Dyddiad cau: Mehefin 6
Addysg Oedolion Cymru
Addysg Oedolion Cymru

Tiwtoriaid mewn amrywiaeth o bynciau

Dyddiad cau: Mehefin 7