
Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwilio am Gadeirydd newydd i’w arwain mewn cyfnod cyffrous.
Mae hwn yn gyfle arbennig i unigolyn profiadol sydd yn awyddus i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiadau helaeth ym myd llywodraethiant, arweinyddiaeth ac addysg i arwain corff cynllunio cenedlaethol uchelgeisiol sydd â’r Gymraeg wrth wraidd ei bwrpas a’i weledigaeth.
Y Coleg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’n cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gynhwysol o’r radd flaenaf.
Fel Cadeirydd, byddwch yn arwain y Bwrdd Cyfarwyddwyr a’r Coleg wrth weithredu Cynllun Strategol y Coleg, sydd yn canolbwyntio ar ehangu a datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr a dysgwyr yng nghyd-destun Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau polisi eraill.
Prif ddyletswyddau’r Cadeirydd yw cynnig a dangos arweiniad strategol, ac arwain y Bwrdd wrth iddo lunio a chymeradwyo strategaethau, monitro perfformiad a sicrhau bod strwythurau llywodraethiant cryf yn goruchwylio holl ystod gwaith y Coleg.
Disgwylir ymrwymiad o tua dau ddiwrnod y mis ar gyfartaledd. Telir honorariwm o £7,500 y flwyddyn ac ad-delir costau yn unol â pholisi costau’r Coleg.
Bydd y penodiad am gyfnod o bedair blynedd, i ddechrau ym mis Gorffennaf 2022.
Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob rhan o’r gymuned. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a gwneir y penodiad ar sail teilyngdod.
Ceir manylion llawn a ffurflen gais ar wefan y Coleg, www.colegcymraeg.ac.uk/cadeirydd2022
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 1 Mehefin 2022