
c. £95,000
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n meddu ar y sgiliau a’r profiad perthnasol i fod yn Gomisiynydd y Gymraeg. Mae swyddogaethau’r Comisiynydd yn cynnwys monitro cydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg, cynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg, ac ymchwilio i honiadau o ymyrraeth â rhyddid unigolion sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd yng Nghymru.
Mae’r penodiad hwn yn un llawn amser ac mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 17 Mehefin 2022.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 17 Mehefin 2022