
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chryf ei gymhelliad i ymuno â’n tîm yng Nghaerdydd. Dyma gyfle i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch profiad i gynhyrchu cyfieithiadau o’r radd flaenaf i CThEM.
Bydd gennych sgiliau iaith rhagorol (Cymraeg a Saesneg), a naill ai gradd yn y Gymraeg, cymhwyster Cymraeg cyfatebol neu brofiad o gyfieithu i’r Gymraeg. Dylech hefyd feddu ar brofiad o brosesau, meddalwedd ac adnoddau cyfieithu Cymraeg, a gallu cynhyrchu a phrawf-ddarllen cyfieithiadau o’r radd flaenaf.
Cewch gyfle i ddefnyddio pecynnau meddalwedd modern i gyfieithu dogfennau ac i fod yn rhan o brosiectau cyfieithu allweddol. Cewch gyfle hefyd i drafod terminoleg ac arddull ysgrifennu newydd a phenderfynu arnyn nhw.
I gael gwybodaeth am y buddion a sut i wneud cais, chwiliwch am swydd rhif 223405 ar borth ‘Civil Service Jobs’.
Fel arall, cysylltwch â hollie.evans@hmrc.gov.uk ar 03000 599538.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cyllid a Thollau EM
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 24 Awst 2022