
Adran Cyfathrebu Corfforaethol
Parhaol, 37 awr yr wythnos
GTAGC Gradd 06 £26,975 to £28,226 y flwyddyn
Mae gennym gyfle cyffrous i Gyfieithydd Cymraeg ymuno â’n tîm – rydym yn chwilio am y person iawn a all ddefnyddio ei sgiliau ieithyddol a’i wybodaeth arbenigol am faterion Cymraeg i helpu i sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein hymrwymiadau dwyieithrwydd, yn ein cymunedau ac o fewn ein staff.
Mae ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg yn golygu mwy na thrin Saesneg a Chymraeg yn gyfartal yn unig. Mae achub bywyd a lleihau risg yn ganolog i’n gorchwyl fel gwasanaeth tan ac achub – ac mae’r iaith Gymraeg yn hanfodol i’n llwyddiant.
Gan weithio fel rhan o’r tîm Cyfathrebu Corfforaethol, bydd y Cyfieithydd Cymraeg yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg/Saesneg ysgrifenedig ar gyfer staff a chyhoeddiadau a chyfathrebiadau gwasanaeth tân ac achub i fodloni’r gofynion statudol a nodir yn safonau’r Gymraeg. Byddant hefyd yn darparu cyfieithu dogfennau ac adroddiadau, yn ogystal â gwasanaeth cyfieithu ar yr un pryd mewn cyfarfodydd a digwyddiadau eraill, yn unol â gofynion y Gwasanaeth.
A oes gennych yr arbenigedd i’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth dwyieithog gorau posibl a sicrhau ein bod yn llwyddo i gyflawni ein hymrwymiad i’r Gymraeg?
Rydym yn chwilio am siaradwr Cymraeg rhugl, sydd wedi’i addysgu i lefel gradd mewn pwnc sy’n gysylltiedig â’r Iaith Gymraeg a chymhwyster cydnabyddedig mewn cyfieithu neu brofiad amlwg mewn sgiliau cyfieithu. Gyda sgiliau ysgrifennu a rhyngbersonol rhagorol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i gyfieithu, darllen a chywiro proflenni gan roi sylw craff i fanylion a chysondeb, wrth weithio i derfynau amser tynn.
Am ragor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys y disgrifiad swydd lawn a manyleb yr unigolyn, ewch i’r pecyn Gwybodaeth Recriwtio Cyfieithydd Cymraeg. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos, gyda thystiolaeth, yn erbyn y meini prawf hanfodol fel yr amlinellir yn y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn er mwyn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Mae’r tîm fel arfer wedi eu lleoli yn Pencadlys y Gwasanaeth yn Llanelwy, ond rydym wedi cyflwyno polisi gweithio hyblyg i hyrwyddo gweithio rhithiol ac yn y cartref lle bo’n ymarferol.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais ydi hanner dydd, 30.05.2022
(rhaid cyflwyno eich cais i Welsh Translator – Supertemps)
Byddwn yn cadw at y dyddiad cau ac ni fydd eithriadau.
Tra bod y broses recriwtio ar gyfer y rolau hyn yn cael ei rheoli gan Supertemps Ltd, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cyflogi’r ymgeiswyr llwyddiannus yn uniongyrchol.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Disgrifiad swydd
- Welsh-Translator-Information-1.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 30 Mai 2022