
Rydym yn chwilio am bobl i ddarparu cymorth Defnyddwyr trwy sianeli ffôn a digidol i gleientiaid ledled Cymru a Lloegr, fel rhan o’r Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.
Chwilio am yrfa gyda chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith?
Rydym yn cynnig swydd dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh, heb unrhyw nosweithiau, penwythnosau, gwyliau banc na targedi gwerthu! Byddwch yn derbyn pecyn gwyliau blynyddol hael o 30 diwrnod yn ogystal â Gwyliau Banc. Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw Cenedlaethol sy’n cynnig cyflog cychwynnol gystadleuol, ac rydym yn falch o’n diwylliant datblygu cryf gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad gyrfa. Rydym yn chwilio am bobl sydd â chefndir mewn gwasanaeth cwsmeriaid sy’n mwynhau helpu eraill a datrys problemau. Os yw hyn yn swnio’n dda ac yr hoffech wybod mwy, byddem wrth ein boddau i glywed wrthoch.
Oriau: Llawn-amser – 37 awr yr wythnos; Llun – Gwener
Cyflog: Dechrau o £19,285
Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol, a Gwyliau Banc yn ychwanegol
Dyddiad Cau: 11.07.2022
Dyddiad y Cyfweliad: 28.06.2022, 30.06.2022, 06.07.2022 a 12.07.2022
Dyddiad Cuchwyn Sefydlog: 18.07.2022
Lleoliad: yn ein swyddfa – Y Barri
Cymwysterau a Sgiliau.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus:
- brofiad o ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid naill ai wyneb i wyneb, dros y ffôn neu mewn amgylchedd ddigidol arall
- sgiliau cyfathrebu rhagorol.
- sgiliau mewnbynnu data a TG da.
- Anogir ymgeisiadau yn yr iaith Gymraeg
Buddion:
Rydym yn cynnig pecyn tâl deniadol gyda thelerau ac amodau cyflogaeth ragorol gan gynnwys:
- Cyflog cychwynnol gystadleuol
- Cydbwysedd bywyd a gwaith rhagorol
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu gyrfa
- Cynllun pensiwn
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr wedi’i ddarparu gan Health Assured
Dyletswyddau:
- Ateb ymholiadau cwsmeriaid sy’n dod i fewn
- Ymgysylltu â chwsmeriaid mewn modd gyfeillgar a phroffesiynol wrth wrando ar eu pryderon
- Cynnig cefnogaeth ac atebion i gwsmeriaid yn unol â’n pholisïau
i wneud cais:
Cewch mwy o fanylion ar ein gwefan ar www.cacv.org.uk
Ymgeiswch trwy anfon eich CV a llythyr cais â uchafrif o 250 o eiriau, yn egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd, beth gallwch ymrhoi i’r cwmni a pa sgiliau, profiadau a diddordebau sy gennych sy’n eich wneud chi’n addas i’r swydd Cynghorydd Defnyddwyr i: recruitment@cacv.org.uk
Mae’r prosiect wedi cael ei gefnogi gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cyngor ar Bopeth Caerdydd a Bro Morgannwg
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 11 Gorffennaf 2022