
Cytundeb 10 mis – Mehefin-Mawrth 2023
Llawn amser
Caerdydd / Gorllewin Cymru
Gan weithio ar gyfres ffeithiol newydd sbon i S4C, mae hwn yn gyfle cyffrous i wneuthurwr rhaglenni uchelgeisiol ddatblygu eu sgiliau cynhyrchu yn ITV Cymru Wales.
Rydym yn chwilio am gynhyrchydd cynorthwyol profiadol neu gynhyrchydd iau gyda phrofiad blaenorol o gynhyrchu rhaglenni dogfen neu faterion cyfoes i ymuno â’n tîm.
Bydd gennych farn olygyddol gadarn, dawn greadigol i adrodd straeon ac angerdd am werthoedd cynhyrchu uchel. Byddwch yn hunan saethwr hyderus gyda phrofiad ffilmio blaenorol ar gynyrchiadau, gyda’r gallu i gyfarwyddo cyfranwyr ar leoliad yn ogystal â chriwiau camera a sain. Gan weithio gyda’r Cynhyrchydd Cyfres/Cyfarwyddwr, bydd disgwyl i chi ddatblygu perthnasoedd ymddiriedus gyda sefydliadau a chyfranwyr amrywiol. Byddwch yn chwarae rhan fawr mewn cyfarfodydd cynllunio a chynnwys a bydd disgwyl i chi drefnu’r rhan fwyaf o’r ffilmio ar gyfer y gyfres. Byddwch hefyd yn gweithio’n agos gyda’r golygydd ac yn cyfrannu at siapio’r gyfres, yn cynorthwyo’r golygu a’r ôl-gynhyrchu.
Gellid gofyn i chi hefyd gynhyrchu cynnwys arall o fewn tîm Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru Wales.
Meini Prawf Lleiaf –
- Profiad o gynhyrchu ffeithiol gydag agwedd greadigol at adrodd straeon, triniaethau a chynhyrchu.
- Sgiliau ffilmio hunan saethu cryf
- Profiad o systemau golygu/llwytho gyda’r gallu i gynorthwyo cynyrchiadau gyda rhagolygu cynnwys.
- Cyfathrebwr gwych gyda’r gallu i feithrin perthnasoedd ymddiriedus.
- Siaradwr Cymraeg rhugl
Meini prawf allweddol –
- Barn olygyddol gadarn gyda gwybodaeth ymarferol drylwyr o faterion Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol.
- Sgiliau trefnu gwych gyda hanes profedig o ddatrys problemau o fewn cynyrchiadau.
- Mae gweithio i derfynau amser yn hanfodol, ac mae hanes profedig o weithio dan bwysau yn allweddol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.itvjobs.com
Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- ITV Cymru Wales
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 26 Mai 2022