
Rydym yn chwilio am Gynhyrchydd Datblygiad Creadigol i’n helpu i gefnogi a datblygu gwneuthurwyr theatr a’u syniadau.
- Ydych chi’n angerddol am ddarganfod a chefnogi gwneuthurwyr theatr i greu gwaith rhyfeddol mewn ffyrdd esblygol ac ysbrydoledig?
- A ydych yn agored i ffyrdd newydd o wneud pethau, cysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru, a chefnogi eraill i wneud yr un peth?
Gan weithio gyda’r Cyfarwyddwr Cynhyrchu, y Cydymaith Creadigol a’r Cyfarwyddwr Artistig, bydd y rôl hon yn datblygu ac yn cyflawni dull integredig tuag at ddatblygiad artistiaid a datblygiad creadigol ledled NTW.
Mae hwn yn gontract tymor penodol am 2 flynedd
Gweld y swydd ddisgrifiad lawn
Cyflog: £35k y flwyddyn
Dyddiad cau: 5pm ddydd Llun 6 Mehefin
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 20 Mehefin
Am rhagor o wybodaeth a sut i geisio ewch i’n gwefan:
https://www.nationaltheatrewales.org/cy/opportunities/swyddi_gwag/
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- National Theatre Wales
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 6 Mehefin 2022