
Uned: Busnes Y Cyngor (Cyfreithiol a Polisi)
Oriau: 37 awr yr wythnos
Cyflog: Graddfa 10, tua £56,000 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol i fod yn Bennaeth Democratiaeth sy’n deall sefyllfa unigryw Ynys Môn fel sir ac a fydd yn gallu gweithio gyda’n Haelodau Etholedig, y tîm arweinyddiaeth, ein staff yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol.
Fel arweinydd Gwasanaethau Democrataidd yr Awdurdod, prif rôl deilydd y swydd yw ymgymryd â rôl statudol Pennaeth Democratiaeth yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Bydd y Pennaeth Democratiaeth yn arwain a rheoli gweinyddiaeth effeithiol Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor.
Rydym yn chwilio am unigolyn o ansawdd uchel i ymuno â ni, sy’n dal gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus ac sy’n angerddol am ragoriaeth wrth ddarparu gwasanaethau.
Ewch i’r wefan isod am ragor o fanylion: https://www.ynysmon.llyw.cymru/Gyrru-Mon-Ymlaen
Dyddiad Cau: 23:59 11/07/2022
E-bost: JobsSwyddi@YnysMon.llyw.cymru
Ffôn: 01248 752976
Cyfeirnod Swydd: CB010921-5
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Disgrifiad swydd
- SDd-Pennaeth-Democratiaeth.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 11 Gorffennaf 2022