
£54,782 – £57,899 y flwyddyn / 37 awr yr wythnos / Bangor ac o gartref / Parhaol
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy’n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i’r sir, gyda’r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Bydd y Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am gyfathrebu mewnol, cyfathrebu a marchnata allanol. Gan berchnogi strategaeth gyfathrebu a marchnata Grŵp Adra, bydd deilydd y swydd yn gyrru perthnasedd, cysondeb ac ymgysylltiad y brand ym mhob un o’r pwyntiau cyswllt.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, plîs cysylltwch efo Delyth Williams ar 0300 123 8084
Dyddiad Cau: 12pm 14/07/22
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Adra
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 14 Gorffennaf 2022