
Cyfeirnod y swydd: DLLC00006W1FDE
Lleoliad: Gweithio o gartref ac amrywiol leoliadau yn Sir Ddinbych
Cyflog: Gradd 7 £27,514 – £30,095
Oriau: 37 awr yr wythnos
Parhaol
Swydd Fewnol ac Allanol
Ymunwch â’n tîm cyfathrebu, marchnata ac ymgysylltu i’n helpu i ddatblygu ymgyrchoedd marchnata arloesol a chreadigol gan hyrwyddo gwasanaethau allweddol addarperir gan y cyngor. Gan weithio gyda thîm blaenllaw o arbenigwyr cyfathrebu, a chyda’u cefnogaeth, byddwch yn dod â sgiliau creadigol, digidol a marchnata ynghyd i’n helpu i hyrwyddo prosiectau a gwasanaethau’n effeithiol i’r cyhoedd. Rydym yn chwilio am rywun na fydd ofn rhoi cynnig ar dechnegau newydd o fewn tîm cefnogol sydd yn annog dysgu a newid. Rhywun a fydd yn gwthio’r ffiniau gydag egni.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Sian Owen ar 01824 706125.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i Gyfle Cyfartal a’i Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Sylwch na fydd unrhyw ffurflenni cais a dderbynnir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na ffurflenni cais a gyflwynwyd yn Saesneg.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cyngor Sir Ddinbych
- Disgrifiad swydd
- Public-Relations-and-1.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 13 Gorffennaf 2022