
Imperial Park, Casnewydd (gyda gwaith hybrid)
Amdanom ni
Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Swyddog Polisi Rheoleiddio i ymuno â’n tîm yn barhaol, llawn amser gan weithio 37 awr yr wythnos. Rydym hefyd yn agored i drafod ceisiadau am batrymau gwaith amgen, gan gynnwys oriau rhan-amser a rhannu swydd, yn ystod cyfweliad.
Y Manteision
– Cyflog o £31,210 – £38,160 y flwyddyn
– Gweithio hyblyg
– Cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil
– 30 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau cyhoeddus a hyd at dri diwrnod o gau swyddfa dros y Nadolig
Dyma’r cyfle delfrydol i unigolyn ymroddedig sydd â phrofiad o ddatblygu polisi ddatblygu eu gyrfa o fewn y rôl gyffrous ac amrywiol hon!
Y Rôl
Fel Swyddog Polisi Rheoleiddio, byddwch yn chwarae rhan allweddol, ymarferol wrth adolygu, adolygu a datblygu ein dogfennau rheoleiddio.
Fel rhan o’ch rôl, byddwch yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau a byddwch hefyd yn ymwneud ag ymchwilio, drafftio a gweithio ar, ac ymateb i, ymgynghoriadau. Byddwch yn sicrhau cyhoeddiadau o ansawdd a gweithrediad effeithiol y polisïau a gweithdrefnau hyn.
Byddwch hefyd yn cynnal asesiadau effaith, gweithdai ac ymgynghoriadau i gefnogi datblygiad polisi o fewn y tîm ac ar draws y sefydliad.
Amdanat ti
I gael eich ystyried yn Swyddog Polisi Rheoleiddio, bydd angen y canlynol arnoch:
– Profiad o ddatblygu polisi
– Profiad o weithio mewn cyd-destun sy’n ymwneud â rheoleiddio, y sector addysg a/neu feysydd cysylltiedig
– Profiad o reoli gwaith yn effeithiol mewn amgylchedd prosiect
– Gwybodaeth am y broses datblygu polisi
– Y gallu i gymhwyso technegau rheoli prosiect
– Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
Byddai’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg o fudd i’ch cais.
Byddai gwybodaeth am y system addysg a chymwysterau yng Nghymru yr un mor fanteisiol, ag y byddai gwybodaeth am egwyddorion allweddol rheoleiddio da.
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 27 Mai 2022 am hanner dydd.
Gall sefydliadau eraill alw’r rôl hon yn Swyddog Polisi, Cynghorydd Polisi, Cynghorydd Rheoleiddio, Swyddog Polisi Rheoleiddio a Chydymffurfio, Swyddog Polisi Cymwysterau, neu Swyddog Polisi Rheoleiddio Addysg.
Felly, os ydych chi’n chwilio am gyfle newydd gwych fel Swyddog Polisi Rheoleiddio, gwnewch gais trwy’r botwm a ddangosir. Mae’r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae’r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cymwysterau Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 27 Mai 2022