
Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth
£27,116 hyd at £30,497 y flwyddyn pro rata (hyd at 0.8FTE)
– AMDANOM NI –
Mae Cyfnewidfa Lên Cymru (y Gyfnewidfa) a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (LAF) wedi’u lleoli yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Cefnogir y Gyfnewidfa a LAF gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn gweithredu’n strategol ym maes cyfnewid llenyddol ryngwladol rhwng Cymru a’r byd.
Cyfnewidfa Lên Cymru yw’r gyffordd gyfieithu sy’n cysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac mae’n gyfrifol am y Gronfa Grantiau Cyfieithu, sy’n cefnogi cyhoeddi llenyddiaeth o Gymru mewn cyfieithiad gan gyhoeddwyr ar draws y byd. Llenyddiaeth ar draws Ffiniau yw’r platfform Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid llenyddol, cyfieithu a thrafod polisi. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu deialog rhyng-ddiwylliannol trwy gyfrwng llenyddiaeth a chyfieithu ac yn blaenoriaethu llenyddiaethau llai cyfarwydd. Mae’n cydweithio ag ystod o sefydliadau ac unigolion ar draws Ewrop a thu hwnt i ddatblygu amrywiaeth llenyddol a chreu cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau a chyfleoedd newydd i greu partneriaethau.
Mae’r Gyfnewidfa a LAF yn gweithio’n agos ar raglen waith gyfun a strategol a gytunir yn flynyddol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r rhaglen waith yn cynnwys mynychu ffeiriau llyfrau a gwyliau llenyddol ac yn rhyngwladol (gwaith gydag awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr), cyfraniadau rheolaidd i blatfformau cyfathrebu, aelodaeth o rwydweithiau a sefydliadau rhyngwladol, cymrodoriaethau a phreswylfeydd, prosiectau a phartneriaethau.
Rydym yn edrych i benodi Swyddog Prosiectau i ymuno â ni yn barhaol.
– Y RÔL –
The ability to communicate and work through the medium of Welsh is essential for this post. Mae’r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Yn y rôl hon byddwch yn:
- Cydweithio gyda staff a chyfranwyr Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau mewn sawl prosiect ym maes llenyddiaeth ryngwladol a chyfieithu.
- Cysylltu â phartneriaid, gartref ac yn rhyngwladol, gan gynnwys awduron, cyfieithwyr, cyhoeddwyr, asiantau a gweithwyr proffesiynol eraill ynghyd â ffeiriau llyfrau a gwyliau llenyddol ac ati.
- Datblygu cynnwys cyfathrebu – testun, gweledol a clyweledol – ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio CMS a thechnolegau eraill.
Gweler y Swydd-Ddisgrifiad am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.
– AMDANOCH CHI –
I gael eich ystyried fel Swyddog Prosiectau, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Gradd Anrhydedd dda neu gymhwyster uwch
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn Gymraeg a Saesneg
- Sgiliau trefnu ardderchog
- Gwybodaeth dda am gyhoeddi a llenyddiaeth gyfoes yng Nghymru a diddordeb mewn llenyddiaeth ryngwladol gan gynnwys darllen llyfrau mewn ieithoedd eraill (neu mewn cyfieithiad)
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dealltwriaeth a sensitifrwydd o weithio’n rhyng-ddiwylliannol
- Sgiliau TG da gan gynnwys CMS, meddalwedd dylunio (ee Canva) a golygu fideo
- Rheoli amser rhagorol a gallu gweithio i amserlen a dyddiadau cau
- Sgiliau rhifedd da gan gynnwys deall sut i reoli cyllideb
- Ymrwymiad clir i gydweithio fel rhan o dîm
- Ymrwymiad clir i gydraddoldeb ac amrywiaeth wrth weithio
- Parodrwydd i weithio’n hyblyg i gyflawni gofynion y swydd
– BUDDION –
Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol.
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith
Dyddiad cau: 5 Medi 2022, 11:59pm
Dyddiad cyf-weld arfaethedig: 21 Medi 2022
Manylion cyswllt: swyddi@pcydds.ac.uk
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Disgrifiad swydd
- Description-Swyddog.docx
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 5 Medi 2022