
Y prif gampws fydd Gaerfyrddin, ond dylid bod yn gallu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill yn ôl yr angen, a bod yn barod i wneud hynny
£27,116 i £30,497 y flwyddyn
– AMDANOM NI –
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy’n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a’r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym ’nawr yn chwilio am Technegydd Amlgyfrwng a Chlyweled – Canolfan S4C Yr Egin i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol, gan weithio 37 awr yr wythnos.
– Y RÔL –
Mae Canolfan S4C Yr Egin yn ganolfan greadigol a digidol sy’n gweithio ar draws sawl genre ac yn darparu nifer o wasanaethau ac felly mae gofyn am Dechnegydd Amlgyfrwng a Chlyweled rhagweithiol sy’n medru meddwl yn greadigol a datrys problemau er mwyn gwireddu, datblygu a hwyluso holl ofynion technegol a digidol (clyweled, ôl-gynhyrchu, ffrydio byw, rhithwir, sain a goleuo) gan wireddu prosiectau creadigol a holl weithgareddau Canolfan S4C Yr Egin ôl-covid. Bydd hyn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i,-
- Arwain darpariaeth technegol cynhadleddau, darlithoedd, sgyrsiau, cyflwyniadau, cyfarfodydd, cyngherddau a digwyddiadau eraill wyneb i wyneb ac arlein;
- darparu cynnwys fidio ac anoddau creadigol ar gyfer prosiectau;
- datblygu profiadau a chynhyrchiadau rhithwir, arlein a theatrig;
- ymateb i ofynion sylweddol ar gyfer gosodiadau a digwyddiadau allanol
Mae’r rôl hon yn un allweddol, a disgwylir i ddeiliad y swydd ddarparu gwasanaeth ‘siop-un-stop’ ar gyfer yr holl ddigwyddiadau sy’n gofyn am gydlynu technolegau clyweled a llwyfannau digidol niferus
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person’.
– AMDANOCH CHI –
I gael eich ystyried ar gyfer rôl Technegydd Amlgyfrwng a Chlyweled, bydd arnoch angen y canlynol:
- Addysg at lefel gradd neu brofiad cyfwerth
- Profiad blaenorol o gefnogi digwyddiadau byw yn dechnegdol a/neu rheoli lleoliadau amlbwrpas;
- Gwybodaeth weithredol o’r broses greadigol boed hynny yn ffilmio, darlledu allanol byw neu theatr;
- Y gallu i ddatrys problemau a chanfod ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaeth technegol a digidol yn effeithiol;
- Profiad blaenorol o ddarparu cymorth clyweled o ansawdd uchel;
- Sgiliau rheoli prosiect effeithiol yn medru cydlynu â chleientiaid allanol a gwireddu eu gofynion clyweled ar gyfer digwyddiadau wyneb i wyneb ac wedi eu ffrydio’n fyw;
- Sgiliau hunan-saethu a phrofiad gweithredol o feddalwedd golygu amrywiol;
- Profiad o ffrydio neu ddarlledu byw gan gynnwys gosod offer, gofynion sain a thorri lluniau;
- Meddu ar wybodaeth weithredol dda o lwyfannau digidol amrwyiol, yn ogystal â chaledwedd a meddalwedd cyfrifiaduron;
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar bob lefel
- Gallu sgwrsio a cyfathrebu’n hyderus am y rhan fwyaf o faterion yn ymwneud â’r gwaith*
Byddai hefyd o fantais i’ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:
- Diddordeb mewn ymchwil a datblygu prosiectau creadigol arloesol
- Profiad o weithio gyda myfyrwyr neu fentora
– BUDDION –
– Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy’n cynnwys:
– Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
– Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
– Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd ac sy’n darparu ar gyfer gweithio’n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
– Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
– Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
– Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
– Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith
Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Technegydd Amlgyfrwng a Chlyweled, gwnewch gais trwy’r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 23 Awst 2022, 11:59pm
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 23 Awst 2022