
Uned: Cyfadran Lles, Addysg ac Astudiaethau Iaith
Cyflog: £42,149 – £50,296 (pro rata)
Lleoliad: Cyfle i weithio o gartref mewn ffordd hyblyg.
Cyfeirnod: 20046
Telerau: 0.6 CALI. Cytundeb penodol – 31 Awst 2024
Dyddiad Cau: 22 Awst 2022 – 12:00
Rydym yn recriwtio Tiwtor Cwricwlwm Cynradd i gefnogi’r Rhaglen TAR yn y Brifysgol Agored, sy’n cynnig dau lwybr i addysgu yng Nghymru trwy ddull seiliedig ar gyflogaeth neu drwy astudiaeth ran-amser.
Deiliad y rôl fydd addysgu ar y TAR Cynradd Y Brifysgol Agored yng Nghymru a bydd yn gyfrifol am addysgu ac asesu myfyrwyr. Byddwch yn gweithio’n agos gydag darpar athrawon, Partneriaid ysgol ac eraill er mwyn sicrhau ansawdd a chyflwyno’r rhaglen ledled Cymru drwy diwtora o bell a wneir ar-lein.
Byddwch yn athro addysgu o bell ar-lein sy’n gallu ysbrydoli, gyda phrofiad helaeth o addysgu athrawon. Bydd gennych SAC a gwybodaeth fanwl a phrofiad ym maes addysg Cymraeg. Byddwch yn awyddus i gymryd rhan weithgar yn y broses o drawsnewid Cymru i gwricwlwm newydd a mentrau eraill ym maes addysg. Yn ddelfrydol, byddwch yn gwneud gwaith ymchwil hefyd, neu bydd gennych y potensial i wneud gwaith ymchwil yn y dyfodol drwy weithio tuag at Ddoethur mewn Addysg.
Bydd y rôl yn gofyn i chi wneud rhywfaint o deithio at ddibenion gwaith ledled Cymru, a theithio i Milton Keynes o bryd i’w gilydd. Mae hon yn rôl gweithio o gartref ond bydd disgwyl i chi deithio’n rheolaidd i swyddfeydd y Brifysgol Agored yng Nghaerdydd.
Yr hyn a gewch yn ôl
Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o’ch rôl bresennol a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys proses sefydlu drylwyr yn y sefydliad ac adolygiadau rheolaidd o’ch anghenion hyfforddiant a datblygu.
Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth wych o fuddiannau sy’n cefnogi ein cyflogeion a’u teuluoedd yn yr hirdymor. Mae’r buddiannau’n cynnwys cynllun pensiwn deniadol a 33 diwrnod o wyliau bob blwyddyn i staff, yn ogystal â Gwyliau Banc a diwrnodau dros y Nadolig pan fydd y swyddfa ar gau. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y rôl hon yn gofyn am ychydig o hyblygrwydd er mwyn gwasanaethu anghenion y busnes.
Cewch gyflwyno’ch cais yn Gymraeg, ac ni chaiff ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Ewch i LINK i gael disgrifiad swydd a manyleb person llawn
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses o wneud cais, cysylltwch â resourcing-hub@open.ac.uk gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, ewch i, http://www.open.ac.uk/courses/choose/cymru/tar
Am ragor o wybodaeth am y Gyfadran a’r Ysgol gweler y dolenni cyswllt isod,
http://www.open.ac.uk/wales/cy
http://wels.open.ac.uk/schools/education-childhood-youth-sport
http://www.open.ac.uk/wales/en
http://www.open.ac.uk/wales/cy
Sut i wneud cais
Dylech gyflwyno ffurflen gais ynghyd â’ch CV a llythyr eglurhaol, (hyd at bedair ochr o A4). Gwnewch yn siŵr bod eich llythyr eglurhaol yn mynd i’r afael yn glir â’r meini prawf hanfodol a dymunol a restrir yn nisgrifiad y swydd.
Dewiswch enghreifftiau penodol o’ch profiad sy’n dangos yn glir fod gennych y wybodaeth a’r galluoedd penodol sydd eu hangen arnoch a nodir yn y disgrifiad swydd a’r fanyleb person.
Dylech gyflwyno’ch cais i resourcing-hub@open.ac.uk gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod.
Dyddiad Cau: 22 Awst 2022 – 12:00
Noder: Os na fyddwch wedi clywed gennym o fewn pythefnos i ddyddiad cau’r cais, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad ar yr achlysur hwn, ond rydym yn ddiolchgar i chi am ddangos diddordeb yn Y Brifysgol Agored ac yn eich annog i wneud cais am swyddi yn y dyfodol.
Mae’r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein holl staff gyflawni eu potensial a denu ymgeiswyr amrywiol. Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o bolisïau cyflogaeth cynhwysol sy’n cynnwys trefniadau gweithio hyblyg sy’n addas ar gyfer teuluoedd a gofalwyr, ac mae gennym lawer o rwydweithiau staff cefnogol a gwasanaethau llesiant. Rydym hefyd yn cefnogi egwyddorion Athena SWAN, ac mae pob lefel o’r sefydliad yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol. Ceir rhagor o ddolenni a gwybodaeth ar ein tudalen Buddiannau Staff o dan y pennawd Cyflogaeth.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Y Brifysgol Agored
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 22 Awst 2022