
Campws Crosskeys
Cyflog: £21,508 – £42,325
37 awr yr wythnos
Ydych chi’n chwilio am her newydd, yn mwynhau dysgu neu’n chwilio am gyfeiriad newydd? Os felly, mae Dysgu Cymraeg Gwent eisiau clywed gennych chi. Mae Dysgu Cymraeg Gwent yn darparu gwersi Cymraeg i Oedolion o fewn y pum sir. Mewn ymateb i’r cynnydd sylweddol yn nifer yr oedolion sy’n dymuno dysgu’r iaith yn y maes hwn, rydym am benodi tiwtor llawn amser i’n helpu i gwrdd â’r her. Ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm brwdfrydig sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dysgu Cymraeg rhagorol yn ardal Gwent?
Os felly, beth am gyflwyno cais i ymuno â’n tîm?
Fel rhan o’r tîm, disgwylir i chi ddarparu gwersi Cymraeg i Oedolion o ansawdd uchel. Mae natur y cyrsiau yn amrywio, o gyrsiau dwys i ddechreuwyr pur hyd at lefel Gloywi ar gyfer dysgwyr hynod brofiadol. Mae gofynion y swydd yn galw am gryn hyblygrwydd ar ran yr ymgeiswyr llwyddiannus, oherwydd y disgwylir i chi weithio gyda’r hwyr ac o bryd i’w gilydd ar benwythnosau. Darperir cyrsiau ac adnoddau ar eich cyfer.
Yn sgil y pandemig presennol, cynhelir pob dosbarth ar blatfformau electronic fel Zoom, SKYPE a Microsoft TEAMS. Rhagwelir y bydd rhywfaint o ddysgu ar-lein yn parhau ar ôl i’r argyfwng presennol ddod i ben.
Fe’ch cefnogir gan dîm proffesiynol a phrofiadol o staff a leolir ar Gampws Crosskeys, Coleg Gwent.
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr profiadol sydd yn meddu ar gymhwyster dysgu TAR, er nad yw hwn yn hanfodol.
Ystyrir patrymau gwaith hyblyg gan ymgeiswyr.
Dylid cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg yn unig.
Mae’r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â’n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
CYNHELIR CYFWELIADAU: I gael ei gadarnhau
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Coleg Gwent
- Disgrifiad swydd
- Swydd-Ddisgrifiad-Tiwtor.doc
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 10 Awst 2022