Llywodraeth Cymru

Aelod o Fwrdd

Dyddiad cau: 27 Mawrth 2023

Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil        

Gweithio hybrid

2 ddiwrnod y mis

Tymor 3 i 5 mlynedd – efallai y bydd modd ymestyn y cytundeb

£337 y diwrnod yn ogystal â chostau

Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gorff hyd braich i Lywodraeth Cymru, a hwn fydd y cyntaf o’i fath i ddwyn ynghyd y swyddogaethau cyllid, goruchwylio a rheoleiddio ar gyfer addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau, chweched dosbarth, a gwaith ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth, gan ganolbwyntio ar y dysgwr, ac mewn ffordd sy’n ystyried anghenion busnes a chymunedol Cymru. Bydd gan y Comisiwn gyllideb flynyddol o ryw £800m, fel un o gyrff hyd braich mwyaf Cymru, bydd yn cyflogi oddeutu 160 o staff, a bydd ganddo weledigaeth unigryw ac uchelgeisiol ar gyfer y sector.

Bydd y Comisiwn yn blaenoriaethu buddiannau dysgwyr, yn eu cefnogi ac yn eu grymuso i symud yn llyfn o addysg a hyfforddiant gorfodol i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, a chael mwy o lais mewn materion sy’n effeithio arnyn nhw a’u haddysg. Bydd hefyd yn cefnogi cryfderau gwahanol pob darparwr dysgu, pob un yn ategu’i gilydd, ac yn galluogi dysgwyr o bob oed i gael mynediad at ystod lawn o gyfleoedd addysg a hyfforddiant, gan sicrhau system gynllunio genedlaethol a rhanbarthol gryfach. Bydd y Comisiwn yn arwain y gwaith o greu system addysg drydyddol ac ymchwil sy’n hygyrch ac yn effeithiol, sy’n cefnogi dysgu, asesu a chynnydd drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac sy’n ganolog i fywyd diwylliannol Cymru fel sydd wedi’i amlinellu yn Cymraeg 2050.

Bydd yr aelodau yn atebol i Gadeirydd y Comisiwn a benodwyd yn ddiweddar, a bydd disgwyl iddynt gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau a gweithredu arnynt.

Rôl y Bwrdd:

  • Sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol yn cael eu sefydlu a’u gweithredu er mwyn cyflawni dyletswyddau, swyddogaethau a chyfrifoldebau cyfreithiol y Comisiwn
  • Rhoi arweiniad effeithiol i’r Bwrdd, gan ddiffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion sy’n cynnig her;
  • Hyrwyddo safonau uchel o ran rheoli cyllid cyhoeddus, a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian;
  • Sicrhau bod gweithgareddau’r Comisiwn yn cael eu cyflawni yn effeithlon ac yn effeithiol; monitro perfformiad i sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni’n llawn ei nodau, ei amcanion a’i dargedau perfformiad.

Bydd gan ymgeiswyr:

  • Y gallu i weithredu ar lefel bwrdd, yn ddelfrydol mewn un neu ragor o’r meysydd hyn:
  • darparu addysg neu hyfforddiant;
  • gwneud gwaith ymchwil, ei weinyddu neu ei gomisiynu;
  • hyrwyddo anghenion dysgwyr mewn addysg drydyddol;
  • rheoli ariannol neu gyfrifyddu;
  • rheoli cyffredinol yn y sector preifat;
  • llywodraethiant bwrdd, sicrwydd a rheoli risg;
  • materion cyfreithiol;
  • hyrwyddo a datblygu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

  • Dealltwriaeth glir o gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymrwymiad iddynt, a pharodrwydd i herio arferion sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl
  • Y gallu i arddangos dealltwriaeth o ymrwymiadau rôl gyhoeddus, fel y’u diffinnir yn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan
  • Record gwych o ysbrydoli ac ysgogi staff a rhanddeiliaid sy’n dangos eich bod yn gweithio mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr staff
  • Y gallu i herio meddylfryd a phrofi barn, gyda pharodrwydd i gael eich herio, ac annog trafodaeth agored er mwyn dod i benderfyniadau gwell
  • Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg

Am fanylion pellach ac i wneud cais ewch i https://www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus neu os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â thîm Odgers Berndtson yng Nghaerdydd ar 02920 783 050 neu e-bostiwch OdgersWalesPractice@odgersberndtson.com . Byddwn yn cydnabod pob cais

Enw’r cwmni neu sefydliad
Llywodraeth Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
27 Mawrth 2023
Rhagor o wybodaeth
Tribiwnlys Prisio Cymru

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Ebrill 21
Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru

Swyddog Cyfathrebu a Chodi Arian

Dyddiad cau: Ebrill 28
Cyngor Tref Caernarfon

Cyfarwyddwr Cyngor Tref Caernarfon

Dyddiad cau: Ebrill 3
Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

Pennaeth

Dyddiad cau: Ebrill 16
Prifysgol Bangor

Swyddog Clercyddol

Dyddiad cau: Ebrill 5
Menter a Busnes

Swyddog Datblygu Gogledd Sir Drefaldwyn

Dyddiad cau: Mawrth 28
Menter a Busnes

Swyddog Datblygu – Gorllewin Sir Gaerfyrddin

Dyddiad cau: Mawrth 28
Menter a Busnes

Swyddog Datblygu – Ynys Môn 80%

Dyddiad cau: Mawrth 28
Heddlu Gogledd Cymru

Cyfieithydd

Dyddiad cau: Ebrill 17
Cyngor Gwynedd

Cynllun Prentisiaethau Cyngor Gwynedd

Dyddiad cau: Ebrill 13

Cylchlythyr