
Gweithio hybrid
2 ddiwrnod y mis
Tymor 3 blynedd
£337 y diwrnod yn ogystal â chostau
Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gorff hyd braich i Lywodraeth Cymru, y cyntaf o’i fath i ddwyn ynghyd y swyddogaethau cyllid, goruchwylio a rheoleiddio ar gyfer addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau, chweched dosbarth, a gwaith ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth, gan ganolbwyntio ar y dysgwr, ac mewn ffordd sy’n ystyried anghenion busnes a chymunedol Cymru. Bydd gan y Comisiwn gyllideb flynyddol o ryw £800m, fel un o gyrff hyd braich mwyaf Cymru, bydd yn cyflogi oddeutu 160 o staff, a bydd ganddo weledigaeth unigryw ac uchelgeisiol ar gyfer y sector.
Bydd y Comisiwn yn blaenoriaethu buddiannau dysgwyr, yn eu cefnogi ac yn eu grymuso i symud yn llyfn o addysg a hyfforddiant gorfodol i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, a chael mwy o lais mewn materion sy’n effeithio arnyn nhw a’u haddysg. Bydd hefyd yn cefnogi cryfderau gwahanol pob darparwr dysgu, pob un yn ategu’i gilydd, ac yn galluogi dysgwyr o bob oed i gael mynediad at ystod lawn o gyfleoedd addysg a hyfforddiant, gan sicrhau system gynllunio genedlaethol a rhanbarthol gryfach. Bydd y Comisiwn yn arwain y gwaith o greu system addysg drydyddol ac ymchwil sy’n hygyrch ac yn effeithiol, sy’n cefnogi dysgu, asesu a chynnydd drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac sy’n ganolog i fywyd diwylliannol Cymru fel sydd wedi’i amlinellu yn Cymraeg 2050.
Bydd yr aelodau yn atebol i Gadeirydd y Comisiwn a benodwyd yn ddiweddar, a bydd disgwyl iddynt gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau a gweithredu arnynt.
Rôl y Bwrdd:
- Sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol yn cael eu sefydlu a’u gweithredu er mwyn cyflawni dyletswyddau, swyddogaethau a chyfrifoldebau cyfreithiol y Comisiwn.
- Rhoi arweiniad effeithiol i’r Comisiwn, gan ddiffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion sy’n cynnig her.
- Hyrwyddo safonau uchel o ran rheoli cyllid cyhoeddus, a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian.
- Sicrhau bod gweithgareddau’r Comisiwn yn cael eu cyflawni yn effeithlon ac yn effeithiol; monitro perfformiad i sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni’n llawn ei nodau, ei amcanion a’i dargedau perfformiad.
Bydd gan ymgeiswyr:
- Y gallu i weithredu ar lefel bwrdd, yn ddelfrydol mewn un neu ragor o’r meysydd hyn:
- darparu addysg neu hyfforddiant
- gwneud gwaith ymchwil, ei weinyddu neu ei gomisiynu
- hyrwyddo anghenion dysgwyr mewn addysg drydyddol
- rheoli ariannol neu gyfrifyddu
- rheoli cyffredinol yn y sector preifat
- llywodraethiant bwrdd, sicrwydd a rheoli risg
- materion cyfreithiol
- hyrwyddo a datblygu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Dealltwriaeth glir o gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymrwymiad iddynt, a pharodrwydd i herio arferion sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl.
- Gwerthfawrogiad dwfn, neu’n well fyth profiad bywyd, o’r cyfleoedd a’r rhwystrau y mae angen eu goresgyn er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i genedlaethau pobl ethnig leiafrifol heddiw ac yn y dyfodol
- Y gallu i arddangos dealltwriaeth o ymrwymiadau rôl gyhoeddus, fel y’u diffinnir yn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan
- Record gwych o ysbrydoli ac ysgogi staff a rhanddeiliaid sy’n dangos eich bod yn gweithio mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr staff
- Y gallu i herio meddylfryd a phrofi barn, gyda pharodrwydd i gael eich herio, ac annog trafodaeth agored er mwyn dod i benderfyniadau gwell
Dymunol
Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad oes gennych sgiliau o’r fath, dylech fod yn barod i wneud ymrwymiad i ddysgu ar ôl cael eich penodi. Darperir hyfforddiant gan gynnwys cymorth a hyfforddiant unigol.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 8 Rhagfyr 2023