
Cyfeirnod: REQ105026
37 awr / Parhaol
£48,849
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
*Mae’r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.
Ynglŷn â’r rôl
Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, gyda’r bwriad arloesol o gefnogi ysgolion i gydweithio ar fodel hybrid o addysgu i ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael i ddisgyblion ôl-14. Tros y blynyddoedd diwethaf, mae’r prosiect cyffrous hwn wedi ehangu i bob ardal o Gymru ac yn cydweithio bellach gyda dros 40 o ysgolion.
Elfennau llwyddiannus eraill o arlwy e-sgol yw’r rhaglen Carlam Cymru, sef cynllun adolygu cenedlaethol ar gyfer TGAU a Safon Uwch; ffurfio partneriaethau gyda’r Rhwydwaith SEREN, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Mudiad Meithrin yn ogystal â datblygu rhaglen o gysylltu Unedau Cyfeirio Disgyblion gydag ysgolion cyfagos er mwyn ddarparu cyrsiau prif ffrwd i ddisgyblion bregus.
Bydd Arweinydd e-sgol Gogledd Cymru yn gyswllt angenrheidiol i ysgolion y Gogledd ac yn cynnig hyfforddiant a chymorth i athrawon a’u dysgwyr. Hefyd, byddant yn edrych am gyfleoedd newydd ac arloesol i ehangu darpariaeth e-sgol ymhellach.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn, ewch i’n gwefan gyrfaoedd neu cysylltwch â Llifon Ellis (Pennaeth e-sgol) ar Llifon.Ellis@e-sgol.cymru
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cyngor Sir Ceredigion
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 4 Rhagfyr 2023