
3 swydd Mawrth
2024 – Rhagfyr 2024
A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu a datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia? Ydych chi’n chwilio am her newydd a phrofiadau gwerth chweil?
Rydym yn chwilio am athrawon neu diwtoriaid cymwys a phrofiadol i ddysgu naill ai:
Plant (meithrin, cynradd neu arddegau); neu Oedolion (pob safon).
Bydd y dyletswyddau hefyd yn cynnwys trefnu gweithgareddau cymdeithasoli iaith ar ran Menter Iaith Patagonia.
Cyflog misol o £750, ynghyd â llety am ddim, taith awyren ac yswiriant iechyd.
Am fwy o fanylion ac am ffurflen gais, cysylltwch â iepwales@britishcouncil.org
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni cais yw 9 Hydref 2023
Mae’r British Council Cymru yn ymrwymedig i bolisi cyfle cyfartal ac mae’n awyddus i adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas y DU ar bob lefel yn y sefydliad. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.
Rydym yn sicrhau y caiff ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol eu cyfweld. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn darllen testun safonol nodi ym mha fformat yr hoffent gael pecyn cais: print mawr, Braille, disg cyfrifiadur neu dâp sain.
Sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig dros gydberthnasau diwylliannol a chyfleoedd addysgol.
Elusen gofrestredig: 209131 (Cymru a Lloegr) SC037733 (Yr Alban).
Ffurflen gais: Welsh Tutor Application Form 2024 – Formstack
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- British Council Cymru
- Disgrifiad swydd
- Disgrifiad-Swydd-Patagonia-2024.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 9 Hydref 2023