
Ydych chi’n teimlo’n frwdfrydig ynglŷn ag ehangu mynediad i’r celfyddydau drwy gyfathrebu cysylltiol? Ydych chi’n llawn syniadau i ddenu cynulleidfaoedd drwy gynnwys digidol ac ymgyrchoedd creadigol? Ydych chi’n cael eich cymell gan y darlun ehangach ond eto’n ymwybodol o’r mân fanylion? Ydych chi’n dda am drin geiriau yn Gymraeg ac yn Saesneg?
Os mai ‘ydw’ yw’r ateb, gallai’r rôl hon fod yn ddelfrydol i chi. Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cynulleidfaoedd a Chyfathrebu.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Saesneg a’r Gymraeg.
Llawn amser
Cyflog: £28k y flwyddyn
Dyddiad cau: 5 o’r gloch dydd Sul 5 Chwefror 2023
Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 6 Chwefror 2023
Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth a sut i wneud cais: https://www.nationaltheatrewales.org/cy/jobs/cydlynydd-ynulleidfaoedd-a-chyfathrebu
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- National Theatre Wales
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 5 Chwefror 2023