
Os ydych chi’n dymuno ymladd yn erbyn anghyfiawnder prinder a tlodi, a helpu pobl sy mewn argyfwng yn Arfon, rydym eisiau clywed gennych chi.
Mae Banc Bwyd Arfon yn chwilio am Gydlynydd Gwirfoddolwyr i gefnogi ac arfogi gwirfoddolwyr presennol a recriwtio mwy o bobl i ymuno â’r tîm.
Mae’r swydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon ac mae’n cynnwys cyfuniad o weithio gartref, gweithio yn y banc bwyd, ac mewn digwyddiadau recriwtio a rhwydweithio.
Cyflog: £16,500
Rhan-amser: 24 awr yr wythnos
Am ragor o fanylion, ewch i wefan Banc Bwyd Arfon neu anfonwch e-bost at manager@arfon.foodbank.org.uk.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Banc Bwyd Arfon
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 16 Rhagfyr 2023