
Bydd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn gyfrifol i Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp sy’n arwain y gwaith o ddarparu ystod lawn o wasanaethau corfforaethol i’r Grŵp er mwyn cyflwyno polisïau a rhaglenni yn unol â blaenoriaethau Gweinidogol.
Mae hon yn swydd allweddol ar Dîm Uwch-reolwyr y Grŵp, gan gyfrannu at arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol y Grŵp a’r sefydliad ehangach a chefnogi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yng nghyd-destun ei rôl fel Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol.
Fel rhan o Dîm Uwch-reolwyr y Grŵp, bydd gan y deiliad swydd gyfrifoldeb ar y cyd am wneud penderfyniadau gweithredol, goruchwylio cyflawni perfformiad, sbarduno gwelliant parhaus a datblygu a chyflawni newid ar draws y busnes.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 8 Rhagfyr 2023