Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cyfarwyddwyr

Dyddiad cau: 24 Mawrth 2023

BWRDD CYFARWYDDWYR

Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwahodd ceisiadau am Gyfarwyddwr newydd i wasanaethu ar ein Bwrdd.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sydd yn awyddus i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiadau i ymuno â thîm sy’n arwain corff cynllunio cenedlaethol uchelgeisiol sydd â’r Gymraeg wrth wraidd ei bwrpas a’i weledigaeth.

Mae’r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ry’n ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.

Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.

Fel Cyfarwyddwr, byddwch yn cymryd rhan mewn penderfyniadau allweddol ar strategaeth a pholisi’r Coleg. Byddwch yn cyfrannu at sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth gyfunol y Cyfarwyddwyr er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni ei gyfrifoldebau ac yn cynnal safonau uchaf llywodraethu corfforaethol.

Rydym yn chwilio yn benodol am unigolyn sydd â phrofiad o arwain yn strategol, sydd â phrofiad o gynlluniau i hyfforddi a datblygu’r gweithlu addysg, a/neu brofiad ymarferol a diweddar o’r sector ysgolion uwchradd.

Mae’r Coleg hefyd yn awyddus i sicrhau bod gennym Fwrdd sydd yn adlewyrchu poblogaeth Cymru gyfan. Byddwn yn croesawu yn enwedig geisiadau gan bobl ddu ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Bydd y penodiad am gyfnod o bedair blynedd. Disgwylir ymrwymiad o tua diwrnod y mis ar gyfartaledd.

Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a gwneir penodiad ar sail teilyngdod.

Dyddiad Cau: 24 Mawrth 2023

Ceir manylion llawn a ffurflen gais ar wefan y Coleg, www.colegcymraeg.ac.uk/cyfarwyddwrnewydd

Enw’r cwmni neu sefydliad
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dyddiad cau i ymgeiswyr
24 Mawrth 2023
Rhagor o wybodaeth
Tribiwnlys Prisio Cymru

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Ebrill 21
Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru

Swyddog Cyfathrebu a Chodi Arian

Dyddiad cau: Ebrill 28
Cyngor Tref Caernarfon

Cyfarwyddwr Cyngor Tref Caernarfon

Dyddiad cau: Ebrill 3
Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

Pennaeth

Dyddiad cau: Ebrill 16
Prifysgol Bangor

Swyddog Clercyddol

Dyddiad cau: Ebrill 5
Menter a Busnes

Swyddog Datblygu Gogledd Sir Drefaldwyn

Dyddiad cau: Mawrth 28
Menter a Busnes

Swyddog Datblygu – Gorllewin Sir Gaerfyrddin

Dyddiad cau: Mawrth 28
Menter a Busnes

Swyddog Datblygu – Ynys Môn 80%

Dyddiad cau: Mawrth 28
Heddlu Gogledd Cymru

Cyfieithydd

Dyddiad cau: Ebrill 17
Cyngor Gwynedd

Cynllun Prentisiaethau Cyngor Gwynedd

Dyddiad cau: Ebrill 13

Cylchlythyr