
CYNGOR SIR POWYS
37 awr, Parhaol (Fe wnawn ystyried oriau rhan amser)
£27,852 i £29,439 y flwyddyn ar gyfartaledd
Llandrindod Wells – mae hon yn swydd gweithiwr hyblyg ac felly mae’r Cyngor yn cynnig cyfle i weithio’n ystwyth, gan gynnwys gweithio o adref
Rydym yn chwilio am gyfieithwyr Cymraeg cymwys i ymuno â’n tîm bach ymroddedig a chroesawgar.
Byddwch yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cyfieithu dwyieithog proffesiynol i’r cyngor er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau dwyieithog i’n cymunedau a’n staff.
Bydd eich gwaith yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfieithiadau ysgrifenedig – o negeseuon cyfryngau cymdeithasol a datganiadau i’r wasg i ohebiaeth ac adroddiadau ynghyd â phrawfddarllen. Bydd sgiliau cyfieithu ar y pryd yn ddymunol ond nid yn hanfodol yn ogystal â bod yn Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Mae oriau llawn amser a rhan-amser ar gael gyda’r hyblygrwydd i weithio o bell/o gartref ac o amgylch eich ymrwymiadau presennol.
I gael sgwrs anffurfiol cysylltwch â Carol Davies ar 01596 826466.
I wneud cais neu am ragor o wybodaeth ewch i https://cy.powys.gov.uk/golwg?id=995922bZ2i&lang=CYM
(This is an advert for a translator where the ability to speak Welsh is essential)
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cyngor Sir Powys
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 1 Hydref 2023