
Mae Golwg yn chwilio i benodi
Cynhyrchydd Creadigol
i greu cynnwys materion cyfoes ar gyfer gwasanaeth golwg360.
Y SWYDD
Datblygu syniadau newydd am gynnwys materion cyfoes oesol i golwg360.
Chwilio am ffyrdd creadigol o rannu cynnwys â chynulleidfa newydd ar-lein.
Cynhyrchu rhaglen gyffrous o gynnwys materion cyfoes ar blatfformau amrywiol.
Creu a golygu cynnwys, gan gynnwys golygu ffilm, sain a deunydd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.
Addasu cynnwys ar gyfer cyfryngau digidol amrywiol, megis TikTok, Instagram, podlediadau, fideo, gwefan ac egylchlythyron.
Darganfod lleisiau amrywiol, newydd i gyfrannu cynnwys.
Y PERSON
Sgiliau hanfodol:
- y gallu i feddwl yn greadigol
- diddordeb brwd mewn materion cyfoes, a thrwyn da am stori
- dealltwriaeth ragorol o gyfryngau newydd a’u patrymau / tueddiadau
- hyderus wrth siarad gyda phobl o bob mathau o gefndiroedd
Mae mwy o wybodaeth yn y swydd ddisgrifiad llawn. Cysylltwch ag owainschiavone@golwg.cymru i dderbyn copi.
Lleoliad: Hyblyg
Oriau: Llawn-amser
Cyflog: £25,000+ (dibynnol ar brofiad)
Cyswllt: Owain Schiavone – 01570 423 529 / owainschiavone@golwg.cymru
Ymgeisio: CV a Llythyr cais
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- golwg360
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 24 Mawrth 2023