
Ydych chi’n chwilio am swydd lle rydych yn gweithio mewn tîm sy’n ysbrydoli ac yn cefnogi pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf i ymuno â’n tîm i ddarparu’r cymorth gweinyddol er mwyn ein galluogi i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyflawni cylch gwaith a bennwyd gan Weinidogion Cymru ac yn darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd dwyieithog, annibynnol a diduedd i bobl o bob oed yng Nghymru.
Swydd: Cynorthwyyddion Gweinyddol, Angen Sgiliau Llafar Cymraeg
Contract: Parhaol
Swyddfa: Mae gennym swyddi gwag yng Nghanolfannau Gyrfa Y Bari a Chasnewydd
Oriau Gwaith: Casnewydd, Llawn Amser (37 awr yr wythnos, llawn amser Bari(29.6 awr yr wythnos (pedwar diwrnod) / Rhan-amser Dydd Mawrth i Dydd Gwener)
Graddfa Cyflog: Llawn Amser, £22,150 – £22,500, Rhan Amser £17,720 – £18,000 Pro Rata i £22,150 – £22,500; byddwch yn dechrau ar £17,720 Pro Rata i £22,150
Cyflog Cychwynnol: Llawn Amser £22,150, Rhan Amser – £17,720 y flwyddyn, byddwch yn dechrau ar £17,720 Pro Rata i £22,150
Dyddiad Cau: 01/10/23
Buddiannau deniadol, gan gynnwys amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser), gweithio hybrid, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth gweinyddol a derbynfa effeithlon ac effeithiol i’n Tim Cymru’n Gweithio. Fel rhan o’r cynllyn hyfforddiant ar gyfer y swyddi yma bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau Prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes, Lefel 2, os nad oes ganddynt y cymhwyster yn barod.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn meddu ar y canlynol:
- Mae sgiliau yn y Gymraeg h.y. y gallu i ddelio ag ymholiadau cyffredinol yn y dderbynfa yn y Saesneg a’r Gymraeg, yn hanfodol. Byddwn yn eich cefnogi gydag uwchsgilio yn y Gymraeg.
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol a’r gallu i ddelio ag ymholiadau (dros y ffôn, dros yr e-bost ac wyneb yn wyneb) gan aelodau o’r cyhoedd, staff mewnol a rhanddeiliaid allweddol.
- Ymrwymiad i ddangos gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
- Y gallu i ymdrin ag ymholiadau anghyffredin lle y gall fod angen trafod a pherswadio
- Sgiliau TGCh.
- Y gallu i drefnu a blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun a chyrraedd amrywiol derfynau amser.
- Y gallu i ddefnyddio cymhelliant a chrebwyll wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm.
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.
Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
Mae’r swydd-ddisgrifiad llawn a’r ffurflen gais ar gael yn Swyddi Gwag – Gyrfa Cymru (llyw.cymru)
Dylid cyflwyno ceisiadau wedi’u cwblhau erbyn 01/10/23.
Ewch i Wefan Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddarganfod mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth, a’n telerau ac amodau.
Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Gyrfa Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 1 Hydref 2023