
(Cyf y swydd: CM/190/23)
Mae Grŵp Llandrillo Menai’n chwilio am unigolyn brwd ac egnïol i ymuno ag uwch dîm rheoli Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor fel Pennaeth Cynorthwyol.
Dyma gyfle prin i ymuno ar lefel strategol ag un o sefydliadau addysg bellach mwyaf Prydain. Mae Grŵp Llandrillo Menai’n sefydliad a chanddo drosiant blynyddol o dros £90M. Mae’n cyflogi dros 1500 aelod o staff ac yn gyfrifol am gynnig darpariaeth addysgol i dros 21,000 unigolyn mewn meysydd sy’n cynnwys addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau ac addysg oedolion.
Prif gyfrifoldeb deiliad y swydd fydd goruchwylio a rheoli Rheolwyr y Meysydd Rhaglen sy’n arwain y ddarpariaeth addysgol a gynigir mewn amrywiol bynciau academaidd a galwedigaethol. Bydd hefyd yn gyfrifol am safle (safleoedd) ar draws Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor ac yn cael cyfle i gyfrannu’n strategol i ddatblygiad campysau’r ddau goleg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn uniongyrchol atebol i Bennaeth y Coleg ac fel aelod o Dîm Strategol Grŵp Llandrillo Menai bydd yn gyfrifol hefyd am: gynllunio’r cwricwlwm; cynllunio a rheoli cyllidebau sylweddol; ymateb i gyfleoedd economaidd ac am gydweithio â chyflogwyr a rhanddeiliaid i sicrhau bod y ddarpariaeth addysgol yn diwallu anghenion yr ardal.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn greiddiol i’r gwaith o sicrhau bod datblygiadau cyfalaf cyffrous gwerth £30M yn cael eu cyflawni – campws newydd i Goleg Menai ym Mangor a datblygu a moderneiddio campysau Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli a Dolgellau.
Os ydych am fod yn rhan o’r tîm ac ymuno â ni ar ein taith gyffrous, ewch ati heddiw i gyflwyno eich cais.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni am sgwrs anffurfiol am y swydd a’i chyfrifoldebau a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r Pennaeth, Coleg Menai/Coleg Meirion Dwyfor.
Cynhelir y cyfweliadau am y swydd ar 14 Ebrill 2023
Ynghlwm mae Swydd ddisgrifiad a gwybodeth bellach a’r gyfer y swydd
Dyddiad cau: – 04/04/2023 @ 12:00
I ymgeisio am y swydd a fuasech chi mor garedig a ail-gyfeirio ymgeiswyr i’n gwefan https://www.gllm.ac.uk/cy/jobs
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Grŵp Llandrillo Menai
- Disgrifiad swydd
- Assistant-Principal-CMD-3.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 4 Ebrill 2023