
Bydd y rôl hon yn arwain ar gylch gwaith eang sy’n cynnwys rheoli a chynnal a chadw trafnidiaeth a phriffyrdd; gwasanaethau cefn gwlad; gwasanaethau parcio; rheoli gwastraff ac ailgylchu; gorfodi materion amgylcheddol; glanhau strydoedd a rheoli sbwriel; cynnal a chadw tiroedd a swyddogaethau argyfyngau sifil.
Mae’n gyfle i arwain y gwasanaethau a fydd yn cefnogi ansawdd bywyd ac amgylchedd gwell i’n cymunedau. Rydym yn chwilio am y cyfuniad cywir o arbenigedd proffesiynol a sgiliau arwain gwych – rhywun sy’n gallu ymgysylltu, ysbrydoli ac ennill cefnogaeth gan eraill wrth drawsnewid gwasanaethau. Byddwch eisoes wedi profi eich gallu i gyflawni prosiectau cymhleth lle’r ydych wedi trosi uchelgais strategol yn ganlyniadau mesuradwy yng nghyd-destun ystod o wasanaethau allweddol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Bydd y rôl hefyd yn gyfrifol am gyllideb is-adrannol refeniw flynyddol gros o £85m, nifer o gyllidebau cyfalaf a thua 550 aelod o staff.
Yn ddelfrydol, bydd angen i chi fod â lefel resymol o Gymraeg llafar a gellir darparu cymorth adeg penodi i gyrraedd y lefel hon.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cyngor Sir Gâr
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 6 Mehefin 2023