
I ddechrau Medi 2023, neu cyn gynted a phosib ar ôl
Dymuna’r Llywodraethwyr benodi Pennaeth deinamig ac ysbrydoledig sydd â’r weledigaeth, y cymhelliant a’r profiad i arwain yr ysgol i lwyddiant pellach.
Mae Maes y Gwendraeth yn ysgol gymunedol hapus ac iddi ethos Gymreig gref a champws modern.
Yn ogystal â gwasanaethu ei disgyblion prif ffrwd, rydym yn ymfalchïo yng nghymeriad unigryw ein canolfan arbenigol, Canolfan yr Eithin, a’i dylanwad positif ar ethos gynhwysol ein hysgol.
Rydym yn chwilio am unigolyn proffesiynol brwdfrydig sy’n meddu ar brofiad llwyddiannus ym maes arweinyddiaeth addysgol a fydd yn parhau i godi dyheadau a sicrhau cyfleoedd a deilliannau dysgu rhagorol cyson ar gyfer pob aelod o gymuned yr ysgol.
Lleolir yr ysgol yng nghalon Cwm Gwendraeth yn nwyrain Sir Gâr gyda’r ddalgylch yn ymestyn ar draws dyffrynnoedd Aman a Thywi ac mae’n cynnig y cyfle i arwain a datblygu talentau pob dysgwr a thîm o staff ymroddedig.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cyngor Sir Gâr
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 6 Chwefror 2023