
Y tâl fydd £9,360 y flwyddyn, ynghyd â threuliau rhesymol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Bwrdd Gwella Addysg Iechyd Cymru (AaGIC) fel Aelod Annibynnol i helpu i lunio dyfodol gweithlu’r GIG yng Nghymru ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd i bobl Cymru.
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw’r corff strategol ar gyfer gweithlu GIG Cymru. Ymhlith ei swyddogaethau statudol mae addysg a hyfforddiant, cynllunio’r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, cynllunio arweinyddiaeth ac olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein pwrpas yw datblygu gweithlu sy’n darparu gofal rhagorol i gleifion / defnyddwyr gwasanaethau, a hybu iechyd rhagorol i bobl Cymru. Awdurdod Iechyd Arbennig ydym ni sy’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Fel Bwrdd rydym yn cynnal ein busnes yn unol â’n gwerthoedd sefydliadol, sef:
- Parch i Bawb
- Gyda’n gilydd fel Tîm
- Syniadau sy’n Gwella:
Rydym yn ymdrechu i ymarfer arweinyddiaeth dosturiol a chyfunol i sicrhau ein bod yn datblygu diwylliant sy’n canolbwyntio ar les staff, ansawdd a gwelliant parhaus.
Beth am ddefnyddio’ch sgiliau a’ch profiad i wneud cyfraniad? Mae GIG Cymru ar hyn o bryd yn chwilio am Aelod Annibynnol i ymgymryd â’r rôl ganlynol:-
- Aelod Annibynnol dros Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) – Gwasanaethu Cymru gyfan – (1 swydd)
Os oes gennych awydd gwirioneddol i chwarae rhan lawn a gweithredol yn y gwaith o lywodraethu AaGIC a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Cymru, hoffem glywed gennych. Rydym yn awyddus i sicrhau bod cyfansoddiad y Bwrdd yn adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn gwerthfawrogi unigrywiaeth ac amrywiaeth pob unigolyn a chredwn fod hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau sy’n adlewyrchu anghenion pawb yn ein cymuned. Rydym yn awyddus i gynyddu cynrychiolaeth pobl o wahanol hunaniaethau, cefndiroedd a diwylliannau ac annog ceisiadau gan grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol.
Fel Aelod Annibynnol, bydd gennych y gwerthoedd a’r sgiliau cywir i ddarparu’r arweinyddiaeth strategol i AaGIC gyflawni ei weledigaethau, ei nodau a’i amcanion.
Ar gyfer y rôl hon mae gennym ddiddordeb mewn ymgeiswyr sydd â’r sgiliau a’r profiad canlynol:
- cefndir yn y GIG, addysg, neu ofal cymdeithasol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector
- peth profiad o weithio ar lefel Bwrdd gyda pharodrwydd i ddatblygu’r sgiliau hyn ymhellach – darperir pecyn cymorth.
Byddwch yn cymryd rhan weithredol yn nhrafodaethau’r Bwrdd, gan ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’n busnes, gan roi eich barn a herio yn adeiladol. Byddwch yn cyfrannu at lywodraethu, cyllid a phroses gwneud penderfyniadau AaGIC, gan gynnwys cymryd rhan ym mhwyllgorau’r Bwrdd. Byddwch hefyd yn gweithredu fel llysgennad i’r sefydliad o ystyried ei rôl unigryw yn GIG Cymru i helpu i hyrwyddo ein cynlluniau a’n gweithgareddau gyda phartneriaid.
Bydd yr Aelod Annibynnol yn cael ei benodi am gyfnod o hyd at bedair (4) blynedd. Mae swydd Aelod Annibynnol yn seiliedig ar ymrwymiad amser tybiannol o bedwar (4) diwrnod y mis o leiaf, yn amodol ar ofynion y sefydliad, ond mae’n aml yn uwch na’r gofyniad lleiaf.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 3 Chwefror 2023