Llywodraeth Cymru

Penodi Aelodau (tua 5)

Dyddiad cau: 2 Hydref 2023

Cyngor Partneriaeth y Gymraeg 

Penodiadau di-dâl am hyd at dair blynedd, gyda’r posibilrwydd o ymestyn i ail dymor.

Hoffech chi ein helpu ni i gyrraedd y miliwn?

Rydym yn chwilio am bobl o wahanol gefndiroedd i’n cefnogi fel rhan o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg.

Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Mae strategaeth iaith Gymraeg y Llywodraeth sef Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, yn gweithio law yn llaw â’r Rhaglen Waith ar gyfer 2021-26. Y nod yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu defnydd dyddiol o’r iaith erbyn 2050.

Yr Aelodau

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sy’n angerddol dros y Gymraeg ac sy’n awyddus i gyfrannu at weithredu’r strategaeth. Byddant yn gwneud hynny drwy gynghori a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru, a hyrwyddo’r strategaeth gyda’r sefydliadau a’r sectorau y maent yn eu cynrychioli.

Er mwyn i’r Cyngor Partneriaeth allu gweithredu’n effeithiol, bydd angen i’w Aelodau fod ag amrywiaeth eang o brofiadau mewn materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg, o bob maes a sector yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys unigolion sy’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Gall profiadau personol hefyd fod yn berthnasol.

Cyfarfodydd

Yn ogystal ag o leiaf tri chyfarfod y flwyddyn – un ym mhob un o dymhorau’r Senedd – weithiau bydd gofyn i Aelodau gyfrannu at waith is-grwpiau neu grwpiau gorchwyl a gorffen arbenigol rhwng cyfarfodydd.

Caiff cyfarfodydd eu cynnal wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd fel rheol. Fodd bynnag, gall ambell gyfarfod gael ei gynnal mewn lleoliad arall yng Nghymru neu dros Microsoft Teams yn ôl y galw.

Amrywiaeth a Chydraddoldeb

Mae’n bwysig bod y Cyngor Partneriaeth yn cynnwys pobl o wahanol gefndiroedd ac o bob rhan o Gymru. Rydym felly’n awyddus i ddenu aelodau o gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd i ymuno â’r Cyngor Partneriaeth, yn enwedig pobl o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leifrifol.

Mae’n bolisi gan y Llywodraeth i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd o’i gwaith, gan gynnwys penodi i gyrff cyhoeddus. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bob grŵp, ac yn gwneud yn siŵr nad yw unrhyw ymgeisydd sy’n gymwys i gael ei benodi i swydd gyhoeddus yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Byddwn yn arddel egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored ac yn penodi ar sail teilyngdod.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 2 Hydref 2023.

Ni fydd ceisiadau sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Llywodraeth Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
2 Hydref 2023
Rhagor o wybodaeth
Llywodraeth Cymru

Penodi Cadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dyddiad cau: Hydref 20
Llywodraeth Cymru

Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dyddiad cau: Hydref 20
Cyngor y Gweithlu Addysg

Swyddog Cofrestru (Cymraeg yn hanfodol)

Dyddiad cau: Hydref 9
Antur Waunfawr

Is-Reolwr Iechyd a Llesiant Tri Busnes Gwyrdd

Dyddiad cau: Hydref 13
Menter a Busnes

Cynorthwyydd Tîm (Y Ganolfan Wasanaeth)

Dyddiad cau: Hydref 10
Llywodraeth Cymru

Penodi Aelod Annibynnol

Dyddiad cau: Hydref 18
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Swyddog Polisi – Ymchwil, Ymgysylltiad a Chyfathrebu

Dyddiad cau: Hydref 20
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Swyddog Polisi – Ymgysylltiad, Monitro a Gwerthuso

Dyddiad cau: Hydref 20
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Swyddog Cymunedau Sy’n Ystyriol o Oedran

Dyddiad cau: Hydref 20
Tinopolis

Golygydd Dan Hyfforddiant   Heno/Prynhawn Da

Dyddiad cau: Hydref 6

Cylchlythyr