
Math o Gytundeb: Parhaol
Oriau Gwaith: 30 awr yr wythnos
Cyflog: £52,000 (pro-rata)
Lleoliad: Gweithio o gartref
Dyddiad cau: 4/12/2023 5yh
Hoffech chi chwarae rhan mewn gwreiddio’r ymarfer o gyd-gynhyrchu mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? Rydym yn awyddus i recriwtio Prif Weithredwr ar adeg allweddol i’r sefydliad, lle rydym yn cryfhau ein strwythur, ymestyn ein cyrhaeddiad a’n heffaith, a chanolbwyntio ar gyfeiriad strategol y cwmni
Pwy ydym ni?
Wedi ein sefydlu yn 2012, rydym yn cefnogi cymuned o bobl sy’n credu yng ngwerth cydgynhyrchu ac ymgyfraniad dinasyddion. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant ac ymgynghoriaeth drwy ein cangen fasnachol, Lab Cyd-gynhyrchu Cymru.
Rydym yn credu, pan fydd aelodau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn gweithio mewn partneriaeth, bod gwasanaethau’n cael eu gwella ac ei fod yn bosib i ddeallt anghenion pobl yn well. Golygir hyn fod cymunedau’n cryfhau. Yn y tirwedd presennol, credwn fod cydgynhyrchu yn cynnig dull cymhellol o ddod â newid cadarnhaol a chynaliadwy i wasanaethau cyhoeddus a chymunedau.
Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn deg ac yn gynaliadwy, lle mae gan bawb lais sy’n cael ei glywed.
Ein cenhadaeth yw ymgorffori’r arfer o gydgynhyrchu a chyfranogi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Pwy rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am rywun sydd eisoes gyda hanes o ragoriaeth ar lefel uwch mewn sefydliad ac yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o arwain yn y trydydd sector yn ogystal â gweithrediadau cynhyrchu incwm masnachol. Rydym yn chwilio am rywun sydd gyda’r gallu i ysbrydoli ac arwain ein sefydliad ar ei daith gyffrous nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth am ein sefydliad a disgrifiad swydd a manyleb person y rôl, dewch o hyd i gopi o’r pecyn recriwtio ynghlwm.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais drwy glicio ar y ddolen canlynol:
https://hr.breathehr.com/v/prif-weithredwr-chief-executive-32495
Bydd gofyn i chi atodi:
-eich CV (dim mwy na 3 ochr A4), gan gynnwys manylion dau ganolwr, ac mae’n rhaid i un ohonynt fod yn gyflogwr cyfredol neu fwyaf diweddar. (Ni chysylltir â nhw cyn y cyfweliadau na phenderfyniad ar gynnig apwyntiad.)
-llythyr ategol (dim mwy na 3 tudalen), sy’n cyfeirio at y swydd ddisgrifiad a’r manyldeb personol.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru
- Disgrifiad swydd
- Pecyn-Recriwtio-1.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 4 Rhagfyr 2023