
Ydych chi’n ffynnu ar amwyster a blerwch?
Ydych chi’n credu fod newid mawr yn bosib?
Ydych chi’n gwirioni ar daenlenni a phobl i’r un graddau?
Rydym eisiau clywed gennych os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ynghanol agwedd newydd gyffrous at greu newid yng Nghaerfyrddin. Gan ddefnyddio cyfle ariannu arloesol a hirdymor gan LocalMotion, rydym yn cydweithio ar draws sectorau a chymunedau yng Nghaerfyrddin i ddysgu sut i:
- weithio gyda’n gilydd yn wahanol, gyda dilysrwydd ac ymddiriedaeth
- datblygu a rhannu sgiliau a gwybodaeth newydd
- datrys heriau fu’n wynebu’r ardal ers amser maith
- newid y system mewn ffyrdd cadarnhaol a chynaliadwy
I gefnogi’r gwaith hwn, rydym yn chwilio am rywun all fod y glud ar gyfer nifer o ddarnau symudol. Mae’r rôl hon ychydig yn wahanol, sy’n galw am gyfuniad hudol o ‘wneuthurwr’ ymarferol a pherson pobl creadigol. Os ydych yn credu fod hyn yn swnio fel chi byddem yn croesawu eich cais.
Rydym yn chwilio am rywun a chanddynt hanes profedig o gyflawni rhaglenni mawr a chymhleth. Mae angen profiad o weithio mewn rôl debyg ar lefel uwch, a byddai’n dda cael angerdd, brwdfrydedd a gwybodaeth leol am Gaerfyrddin.
Bydd y Rheolwr Cydweithio a Newid yn cynrychioli Caerfyrddin fel rhan o fudiad ehangach LocalMotion i greu newid systemig, gan gynnwys cyflwyno ac eiriol i Leoedd eraill, Cyllidwyr a byrddau ymddiriedolaethau ar ran y Dref. Byddant yn gyrru uchelgeisiau’r cywaith ar draws tref Caerfyrddin, gan sicrhau y cedwir momentwm ar draws y rhaglen. Nhw fydd llysgennad Caerfyrddin dros Le a Newid, a byddant yn rhwydweithio, cysylltu a darparu llais i’r rhaglen i sicrhau bod cynulleidfaoedd amrywiol yn deall beth yw eu rhan ym mhroses LocalMotion.
Byddant yn gyfrifol am reoli a chyflawni’r rhaglen, felly bydd angen iddynt fod yn gyfathrebwr cryf ac yn gallu gweithio i amserlenni tynn a blaenoriaethu tasgau yn unol â hynny.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am y Rhaglen ewch i:
I gael pecyn cais ewch i: https://localmotion.org.uk/
Dylid danfon ceisiadau at: hello@localmotion.org.uk
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd yw 5pm Dydd Llun 12fed Mehefin 2023
Trefnwyd cyfweliadau ar gyfer Dydd Iau 22ain Mehefin 2023
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- CAVS Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 12 Mehefin 2023