
Y rôl
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth eisiau penodi cydlynydd datblygu sgiliau academaidd ar sail cyfnod penodol, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau Gwasanaethau Gwybodaeth. Bydd y swydd hon yn cefnogi cydweithwyr yn y GG i ddatblygu a chyflwyno rhaglen o hyfforddiant sgiliau digidol, llythrennedd gwybodaeth ac academaidd, gan ddarparu gwybodaeth ddwyieithog am sgiliau, deunyddiau ac adnoddau, gan gynnwys cymorth un i un yn ogystal â chreu deunyddiau dysgu ar-lein yn Gymraeg a Saesneg i gefnogi’r agenda datblygu sgiliau gan gynnwys creu gwefan sgiliau academaidd newydd.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Nia Ellis neu Elizabeth Kensler nrj@aber.ac.uk / eak@aber.ac.uk.
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 – 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
- Cysylltu â staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol i greu presenoldeb ar-lein hygyrch ar wefan PA i fyfyrwyr a staff gael gwybodaeth am wasanaethau digidol, gwybodaeth a sgiliau academaidd, hyfforddiant a chefnogaeth.
- Hyrwyddo gwasanaethau sgiliau digidol, gwybodaeth ac academaidd, hyfforddiant a chymorth i randdeiliaid amrywiol trwy ddulliau gwahanol gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, gweithgareddau ymgysylltu, digwyddiadau a sgyrsiau yn Gymraeg a Saesneg.
- Gweithio gyda Chymorth Dysgu i Fyfyrwyr, y tiwtor Sgiliau Academaidd a’r Gwasanaethau Gwybodaeth i drefnu amserlen gwbl ddwyieithog o sesiynau hyfforddi ar gyfer israddedigion ac uwchraddedigion
- Gweithio gyda myfyrwyr a staff academaidd i nodi gofynion hyfforddi sgiliau Cymraeg
- Gweithio gyda chydweithwyr i gynhyrchu adnoddau Cymraeg ar gyfer sgiliau academaidd, sy’n cyfateb i adnoddau Saesneg ac fel adnoddau pwrpasol ar gyfer y rhai sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
- Canfod a churadu deunyddiau parod i ddarparu hyfforddiant ar-lein ar sgiliau digidol, gwybodaeth ac academaidd.
- Gweithio gyda Gyrfaoedd, Gwasanaethau Gwybodaeth a staff academaidd ar sgiliau academaidd ar gyfer categorïau penodol o fyfyrwyr e.e. Uwchraddedigion, myfyrwyr nyrsio ac ati.
- Gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth i ddod â chymorth sgiliau ynghyd i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu deall a chael mynediad hawdd at y cyfleoedd sydd ar gael ac i osgoi dyblygu.
- Sicrhau dull cyson o ddarparu hyfforddiant.
- Datblygu, monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y ddarpariaeth hyfforddiant, gan gynhyrchu adroddiadau i ddangos perfformiad ac effaith, yn ôl y gofyn, a defnyddio hyn i wella a datblygu gwasanaethau
- Cyfrannu at y gwaith o gynllunio a datblygu darpariaeth sgiliau academaidd yn y Gwasanaethau Gwybodaeth yn y dyfodol drwy fod yn aelod o’r Grŵp Sgiliau.
- Cyflwyno hyfforddiant i fyfyrwyr ar sgiliau digidol, gwybodaeth ac academaidd.
- Gweithio gyda chydweithwyr yn y GG, yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg a chyda chydweithwyr academaidd er mwyn sicrhau gwasanaeth cyson i fyfyrwyr ar draws pob adran yn y brifysgol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy’n gymesur â gradd y rôl.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Prifysgol Aberystwyth
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 5 Chwefror 2023