
Cyflog: £28,929- £35,308 (Pwyntiau sbinol 22 – 29)
Lleoliad: Caerfyrddin, Caerdydd, Caernarfon, Aberystwyth
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolion cymwys, trefnus, a chreadigol i chwarae rhan arweiniol i ddatblygu prosiectau sy’n ymwneud â chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bydd y prosiectau yn gysylltiedig â’r gwahanol elfennau sef dysgwyr, staffio, darpariaeth, adnoddau, cymwysterau a chyflogwyr.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith datblygu’r sectorau addysg bellach a phrentisiaethau fel ran o waith cynllunio academaidd y Coleg a chynlluniau ehangach dan arweiniad Llywodraeth Cymru i geisio cynyddu’r niferoedd sy’n astudio yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y colegau addysg bellach a gyda darparwyr prentisiaethau. Bydd deiliad y swydd hefyd yn annog ac yn hwyluso cydweithio gydag ac ar draws y sector.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth o’r sector addysg bellach a phrentisiaethau a phrofiad o reoli prosiectau amrywiol.
Dyddiad Cau: 14:00 ar 12 Mehefin 2023
Am fanylion llawn: www.colegcymraeg.ac.uk/swyddi
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyflogwr Cyfle Cyfartal.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Ffurflen gais
- Ffurflen-Gais-Swyddog.docx
- Disgrifiad swydd
- 202305-Manyleb-Swydd-AB-a-Ph.docx
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 12 Mehefin 2023