
Dyddiad Cau: Dydd Sul 19 Chwefror 2023
Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Llun 6 Mawrth 2023
Gradd/Cyflog: Gradd 4 (SCP 30 – 35) £36,298 – £41,496
Tymor: Parhaol
Lleoliad: Un Rhodfa’r Gamlas, Heol Dumballs, Caerdydd gyda’r hyblygrwydd i weithio gartref ac o bell yn unol â’n Polisi Gweithio Hyblyg (mae hon yn swydd dros Gymru gyfan felly disgwylir y bydd angen teithio i Gaerdydd a thros Gymru yn rheolaidd).
Swydd dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi.
Cymraeg yn hanfodol: Ydi
Ynglŷn â’r Swydd
Rydyn ni’n edrych am Swyddog Cyfathrebu brwdfrydig ac yn llwyr ddwyieithog i ymuno â thîm cyfathrebu CLlLC.
Bydd gennych chi brofiad o weithio o fewn maes cyfathrebu, awyrgylch swyddfa’r wasg neu newyddiaduraeth – gan gynnwys drafftio copi dwyieithog – a gyda dealltwriaeth dda o wasanaethau cyhoeddus a sensitifrwydd gwleidyddol. Gan weithio’n agos gyda’r Rheolwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, byddwch chi ’n cefnogi uwch swyddogion ac arweinyddiaeth wleidyddol CLlLC i helpu i hyrwyddo buddiannau llywodraeth leol yng Nghymru.
Byddwch chi’n gallu dangos profiad o reoli a datblygu cysylltiadau da gyda newyddiadurwyr allweddol ar draws y wasg a’r cyfryngau, ac o ysgrifennu copi perswadiol o ansawdd uchel yn Gymraeg ac yn Saesneg ar draws nifer o sianeli. Byddwch chi’n gyfrifol am oruchwylio a datblygu sianeli cyfryngau cymdeithasol a bydd gennych chi lygad dda am greu cynnwys effeithiol a gafaelgar.
Bydd profiad gennych chi o weithio mewn newyddiaduraeth neu gysylltiadau cyhoeddus, yn ddelfyrdol o fewn gwasanaeth cyhoeddus neu awyrgylch gwleidyddol, ac o weithio i derfynnau amser tynn. Byddwn ni’n disgwyl i chi fod yn ragweithiol ac yr un mor gyfforddus yn gweithio ar eich liwt eich hun neu fel rhan o dîm. Byddwch chi mewn cysylltiad agos ac yn rheolaidd gydag arweinwyr ac uwch aelodau etholedig o fewn CLlLC, gan ddarparu cyngor a cefnogaeth yn hyderus gan ddatblygu perthnasau dibynadwy ar draws y sbectrwm gwleidyddol.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno gyda sefydliad â phroffil uchel sydd wrth galon llywodraethiant Cymru. Os ydych chi â diddordeb, hoffwn ni glywed gennych chi.
Gwnewch gais Rŵan!
I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Dilwyn Jones, Rheolwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus ar 07554 056520.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma – www.wlga.cymru/jobs1
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.
Mae WLGA yn cyflogi ei staff yn ôl egwyddorion cyfleoedd cyfartal.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 19 Chwefror 2023