Gofal Cymdeithasol Cymru

Swyddog Cynnwys – Siarad Cymraeg

Dyddiad cau: 11 Mehefin 2023

Caerdydd neu Lanelwy (gyda gwaith hybrid)

Y Sefydliad

Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.

Trwy ein gwaith sicrhau ansawdd, rydym yn cefnogi addysgwyr gwaith cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ac ymarfer i ddarparu’r hyfforddiant gorau posibl i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol.

Rydym nawr yn chwilio am ddau Swyddog Cynnwys i ymuno â’n Tîm Cyfathrebu yn llawn amser. Cynigir un rôl yn barhaol a’r llall am gontract cyfnod penodol o fis Gorffennaf 2023 tan fis Rhagfyr 2024.

Y Manteision
– Cyflog o £32,458 – £34,318 y flwyddyn

– 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)

– Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

– Cynllun pensiwn llywodraeth leol

– Polisi gwaith hyblyg

– Gweithio hybrid

– Polisi absenoldeb teuluol

Y Rôl

Fel Swyddog Cynnwys, byddwch yn cynllunio, creu a darparu amrywiaeth o gynnwys ar-lein ac all-lein deniadol (fel tudalennau gwe, straeon newyddion, e-fwletinau, fideos a negeseuon cyfryngau cymdeithasol) sy’n bodloni anghenion ein cynulleidfaoedd.

Gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr pwnc a rheolwyr prosiect, byddwch yn cefnogi creu cynnwys sy’n hygyrch, wedi’i ysgrifennu mewn Cymraeg a Saesneg clir, ac sy’n gyson â’n brand.

Yn ogystal, byddwch yn:

– Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer eich tîm

– Meithrin perthnasoedd ag awduron cynnwys ar draws y sefydliad

– Darparu cyngor ac arweiniad i gydweithwyr

– Diweddaru ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan

– Cynorthwyo gyda rheoli adnoddau ariannol

Amdanat ti

I gael eich ystyried yn Swyddog Cynnwys, bydd angen y canlynol arnoch:

– Rhuglder yn y Gymraeg

– Profiad o weithio fel awdur a/neu olygydd

– Profiad o ddylunio a chyhoeddi cynnwys sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

– Profiad o is-olygu a phrawfddarllen a throi testun cymhleth yn iaith blaen

– Profiad o gefnogi eraill i gynhyrchu cynnwys

– Dealltwriaeth o gynnwys HTML, systemau rheoli cynnwys gwefan ac SEO

– Gwybodaeth ymarferol o sut i gynhyrchu cynnwys hygyrch

– Gwybodaeth am sut i ddehongli data

– Hyfedredd mewn TG, yn enwedig rhaglenni Microsoft Office

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 11 Mehefin 2023.

Gall sefydliadau eraill alw’r rôl hon yn Swyddog Marchnata, Dylunydd Cynnwys, Swyddog Cyfryngau Digidol, Swyddog Cynnwys Digidol, Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Chysylltiadau Cyhoeddus, neu Swyddog Gweithredol Cyfathrebu Digidol.

Felly, os ydych chi eisiau camu i rôl amrywiol a deniadol fel Swyddog Cynnwys, gwnewch gais trwy’r botwm a ddangosir. Mae’r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae’r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
11 Mehefin 2023
Rhagor o wybodaeth
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Ymchwilio

Dyddiad cau: Mehefin 26
ITV

Newyddiadurwr (Rhaglenni Cymraeg)

Dyddiad cau: Mehefin 23
Coleg Gwent

Tiwtor Cymraeg i Oedolion (Telir Fesul Awr)

Dyddiad cau: Mehefin 21
Menter a Busnes

Cyfarwyddwyr Anweithredol

Dyddiad cau: Mehefin 22
Gofal Cymdeithasol Cymru

Swyddog Cynnwys – Siarad Cymraeg

Dyddiad cau: Mehefin 11
Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Swyddog Addysg Bellach a Phrentisiaethau

Dyddiad cau: Mehefin 12
Prifysgol Aberystwyth

Gweinyddwr Dysgu Cymraeg

Dyddiad cau: Mehefin 15
Comisiynydd y Gymraeg

Cyfarwyddwr Rheoleiddio

Dyddiad cau: Mehefin 16
Comisiynydd y Gymraeg

Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol

Dyddiad cau: Mehefin 16
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Dylunio

Dyddiad cau: Mehefin 7

Cylchlythyr