Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Dylunio

Dyddiad cau: 7 Mehefin 2023

Lleoliad: I’w drafod

£28,929 – £32,411 y flwyddyn (pro rata)

– AMDANOM NI –

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o’n gweithwyr ymroddedig a thalentog, ac rydym yn dîm sy’n gweithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth i fywydau ein myfyrwyr a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn y 14eg safle yn y DU ar gyfer Cynhwysiant Cymdeithasol ac yn yr 28ain safle yn y DU ar gyfer Ansawdd yr Addysgu (Canllaw Prifysgolion Da The Times a’r Sunday Times, 2023), ac yn yr 21ain safle yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide, 2023).

Rydym ’nawr yn chwilio am Swyddog Dylunio i ymuno â ni’n barhaol ac yn rhan-amser i weithio 18.5 awr yr wythnos (gellir ystyried cyfuno’r swydd gyda’r Swydd Y We (51013) a chreu swydd lawn amser).

– Y RÔL –

Bydd y Swyddog yn gweithio o fewn y Gyfarwyddiaeth Marchnata a Chyfathrebu, ond yn ymgymryd â phrosiectau ar draws y Ganolfan.  Prif nod y swydd fydd sicrhau bod gwaith digidol a gwaith print y Ganolfan yn cael ei gefnogi gan ddyluniadau proffesiynol ac addas.

Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person’.

– AMDANOCH CHI –

I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Swyddog Dylunio, bydd arnoch angen y canlynol:

  • Cymhwyster mewn disgyblaeth berthnasol (neu’r profiad proffesiynol cyfwerth).
  • Profiad o weithio’n effeithiol fel unigolyn, fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill.
  • Dealltwriaeth arbenigol o egwyddorion gosod, teipograffeg a dylunio golygyddol.
  • Creadigrwydd, gyda’r ddawn i ddyfeisio dyluniadau deniadol a thrawiadol.
  • Gwybodaeth arbenigol am becynnau fel Adobe Creative Suite (InDesign, Illustrator, Photoshop) ac Acrobat Pro Accessibility.
  • Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Y gallu i gyflawni gwaith yn annibynnol, yn erbyn terfynau amser tynn ac i safon uchel.
  • Y gallu i weithio yn fanwl er mwyn sicrhau bod dyluniadau’n gywir, yn gyson, ac yn apelio’n weledol.
  • Barod i deithio i fodloni gofynion sy’n ymwneud â’r swydd ac i weithio o amrywiol leoliadau pan fo angen.

Byddai hefyd o fantais i’ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:

  • Profiad o’r sector Dysgu Cymraeg
  • Profiad blaenorol o ddatblygu polisi brandio, hunaniaeth weledol a dyluniad clir, gan gynnwys cynhyrchu dogfennau PDF hygyrch.
  • Dealltwriaeth sylfaenol o sgiliau technegol fel HTML, CSS, a Javascript er mwyn sicrhau y gellir gweithredu dyluniadau yn addas ar gyfer y we neu’r cyfryngau digidol eraill.

– BUDDION –

– Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion cynhwysfawr yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy’n cynnwys:

  • Cyflog cystadleuol a datblygiad cyflog
  • Lwfans gwyliau blynyddol hael, yn cynnwys cau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
  • Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
  • Mynediad at lwyfan buddion a llesiant sydd â dewis o fuddion i weddu i’ch anghenion, gan gynnwys cynllun aberthu cyflog ar gyfer cerbyd trydan, a gwasanaethau llesiant ariannol
  • Cymorth ar gyfer iechyd a llesiant, gan gynnwys mynediad at gyfleusterau chwaraeon ar y campws am brisiau gostyngol, gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
  • Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
  • Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd ac sy’n darparu ar gyfer gweithio’n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth gwell â thâl
  • Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith

Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Swyddog Dylunio, gwnewch gais trwy’r botwm a ddangosir.

Nodwch nad yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.

Dyddiad cau: 7 Mehefin 2023, 11:59pm

Enw’r cwmni neu sefydliad
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Dyddiad cau i ymgeiswyr
7 Mehefin 2023
Rhagor o wybodaeth
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Ymchwilio

Dyddiad cau: Mehefin 26
ITV

Newyddiadurwr (Rhaglenni Cymraeg)

Dyddiad cau: Mehefin 23
Coleg Gwent

Tiwtor Cymraeg i Oedolion (Telir Fesul Awr)

Dyddiad cau: Mehefin 21
Menter a Busnes

Cyfarwyddwyr Anweithredol

Dyddiad cau: Mehefin 22
Gofal Cymdeithasol Cymru

Swyddog Cynnwys – Siarad Cymraeg

Dyddiad cau: Mehefin 11
Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Swyddog Addysg Bellach a Phrentisiaethau

Dyddiad cau: Mehefin 12
Prifysgol Aberystwyth

Gweinyddwr Dysgu Cymraeg

Dyddiad cau: Mehefin 15
Comisiynydd y Gymraeg

Cyfarwyddwr Rheoleiddio

Dyddiad cau: Mehefin 16
Comisiynydd y Gymraeg

Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol

Dyddiad cau: Mehefin 16
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Dylunio

Dyddiad cau: Mehefin 7

Cylchlythyr