
Cytundeb: 0.5 o amser llawn (17.5 awr yr wythnos) Cytundeb rhan amser am gyfnod penodol o 12 mis (cyfnod mamolaeth)
Mae’r Coleg yn barod i ystyried secondiad ar gyfer y rôl yma
Cyflog: £29,605 – £36,024 (Pwyntiau sbinol 22 – 29)
Lleoliad: Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon, Aberystwyth
Dyddiad Cau: 14:00 4 Hydref 2023
Dyddiad Cyfweliadau: 13 Hydref 2023
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolyn cymwys, trefnus, a chreadigol i chwarae rhan greiddiol i ddatblygu prosiectau sy’n ymwneud â chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bydd y prosiectau yn gysylltiedig â’r gwahanol elfennau sef dysgwyr, staffio, darpariaeth, adnoddau, cymwysterau a chyflogwyr.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol trwy arwain prosiect Cymraeg Gwaith ar gyfer y sector addysg bellach. Pwrpas prosiect Cymraeg Gwaith yw darparu cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer staff yn y sector i ddatblygu a gwella eu sgiliau Cymraeg er mwyn gallu darparu’n gynyddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn arwain ar brosiect i gynnig cyfleodd mentora i fyfyrwyr sy’n cwblhau cwrs TAR addysg bellach. Bydd deiliad y swydd yn annog ac yn hwyluso cydweithio gydag ac ar draws y sector.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth o’r sector addysg bellach a phrentisiaethau a phrofiad o reoli prosiectau amrywiol.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Ffurflen gais
- Ffurflen-Gais-Swyddog-Prosiectau.docx
- Disgrifiad swydd
- 202309-Manyleb-Swyddog.docx
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 4 Hydref 2023